Tirluniau Cynhanes

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,080
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,112
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Goroesiadau Prin

Mae'n anodd gwerthfawrogi hynafiaeth tirlun Cymru, ond ar brydiau ar hyd yr arfordir ac yn yr ucheldir, lle mae'r tir fel arfer yn fwy ymylol ac wedi'i drin llai, mae olion bregus o aneddiadau a chaeau hynafol wedi goroesi. Mae darnau o'r tai, ffermydd a'r llwybrau a osodwyd gan bobl Oes yr Haearn neu'r Oes Efydd, neu gan bobl neolithig. Mae'r fath olion yn agored i niwed gan aredig, draenio tir a chlirio cerrig, yn enwedig yn iseldiroedd ffrwythlon de a chanolbarth Cymru. Ond fe all tirluniau ffermio cynnar gael eu cadw'n dda mewn rhannau o'r ucheldiroedd, ar ynysoedd fel Ynys Sgomer ac Ynys Dewi, ac ar bentiroedd grug yn Sir Benfro, yng Ngwynedd a Sir Fôn. Mae enghreifftiau yng Nghymru ymysg y gorau yn Ewrop.

Dyffryn Ardudwy

Mae cyfundrefn caeau Corsygedol, ger Dyffryn Ardudwy yng Ngwynedd, yn arbennig o drawiadol. Er bod archeolegwyr wedi gwybod am y caeau hynafol yma ers amser maith, dim ond yn ystod y 1980au a'r 1990au y dechreuodd arolygon tir, rhagchwilio awyr a mapio awyrluniau ddechrau datgelu'u cymhlethdod a'u hansawdd. Mae'r caeau hirgrwn mwyaf a seiliau'r tai crwn yn debygol o berthyn i Oes yr Haearn a'r cyfnod Brythonig-Rufeinig. Ond gellir dweud bod o leiaf rhan o'r tirlun ffermio'n perthyn i'r cyfnod Neolithig (peth prin iawn ym Mhrydain), oherwydd ei chysylltiad â beddrod siambr. Mae twmpathau llosg hefyd wedi goroesi yn y caeau – twmpathau o gerrig wedi'u hollti gan dân y credir iddynt gael eu defnyddio ar gyfer coginio neuymolchi cymunedol, sydd fel arfer o gyfnod yr Oes Efydd. Parhaodd anheddu, ffermio ac ailblannu'r caeau hyn wedi iddynt ddod yn rhan o stad Vaughan yng Nghorsygedol yn yr ail ganrif ar bymtheg. Ar y ddaear mae'r cloddiau caregog, gydag eithin drostynt, yn ddryslyd, ond gyda map neu ganllaw gellir gweld seiliau sylweddol tai crwn o Oes yr Haearn a gellir cerdded ar hyd llwybr arglawdd rhwng y caeau yn dilyn olion traed teuluoedd ffermio cynhanesyddol di-rif.

Muriau’r Gwyddelod

Mae Corsygedol yn un o'r rhannau o arfordir Dyffryn Ardudwy sydd wedi cael ei archwilio''n dda, ond mae gan yr ardal oroesiadau hynod eraill, gan gynnwys Muriau'r Gwyddelod, uwchlaw Harlech. Dyma lain ar ochr bryn lle mae cytiau a marchgaeau o'r cyfnod Brythonig-Rufeinig wedi'u rhannu oddi wrth dyddynnod cyfagos gan waliau troellog, ychydig gannoedd o fetrau o dai Harlech heddiw. Mae'n siŵr fod tirweddau eraill o'r fath yn aros i gael eu darganfod ar hyd llwybrau ac ar fryniau agored ar draws Cymru. Mae pob enghraifft newydd yn cynnig cysylltiad pendant a nerthol â'r gorffennol cynhanesyddol.

 

Cyfrannwyd y stori gan: CBHC