Safleoedd Claddu Neolithig

Eitemau yn y stori hon:

  • 906
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,133
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 801
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,154
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Y synnwyr lleoliad cyntaf

Galluogodd y chwyldro Neolithig o 4,000 i 3,000 CC i gymunedau newid eu hamgylchedd mewn ffyrdd dwys. Roedd clirio fforestydd, plannu cnydau'n rheolaidd, hwsmonaeth a sefydlu aneddiadau rhannol sefydlog bychain yn golygu bod unigolion yn cael profiad o gysylltiad gyda'u tir am y tro cyntaf – synnwyr o leoliad. Nid yw'n syndod iddynt greu'r cofadeiladau cyntaf yn nhirwedd Cymru, a'r beddrodau siambr sydd fwyaf adnabyddus ac sydd wedi goroesi. Roeddent yn safleoedd claddu cymunedol, ac fe gawsant eu creu i ddathlu'r cyndadau a thanlinellu perchnogaeth a chysylltiad ysbrydol y gymuned â'r tir.

Pentre Ifan

Yr enwocaf ac efallai'r gorau sydd wedi goroesi yw Pentre Ifan, ger Nyfer yng ngogledd Sir Benfro. Mae ei siambr wedi'i ffurfio gan faen capan 16 tunnell wedi'i ddal gan dri maen hir tua 2.5 metr o uchder ar un pen carnedd tua 30 metr o hyd. Cloddiwyd y beddrod gan WF Grimes ym 1936-7, a feddyliodd ei fod wedi'i ddylanwadi'n fawr gan gysylltiadau cynhanesyddol ag Iwerddon. Mae ymchwil diweddarach yn awgrymu fod y beddrod yn gread cynhenid gan y cymunedau lleol ond efallai ei fod wedi cael dylanwad diwylliant Iwerddon yn ddiweddarach, pan ddefnyddiwyd y beddrod mewn ffordd wahanol, ac ehangwyd y twmpath hir, a oedd wedi erydu ers amser maith. Efallai na welodd y cymunedau a'i ddefnyddiodd y strwythur fel mae'n ymddangos heddiw. Credir i'r cyfan gael ei orchuddio â thwmpath o gerrig gyda'r unig fynediad i'r siambr drwy ddrws neu borth yn y pen deheuol.

Pen-y-wrlod

Mae'n debyg nad yw bryniau a chymoedd coediog Sir Frycheiniog wedi datgelu'r cyfan o'i beddrodau Neolithig eto. Ni sylwyd ar un mawr ym Mhen-y-wrlod ger Talgarth tan 1972 pan ddaethpwyd o hyd iddo wrth chwarelu. Wrth gloddio wedyn daethpwyd o hyd i rai o'r olion sgerbydol gorau o unrhyw feddrod Neolithig yng Nghymru, a oedd yn caniatáu ail-greu wyneb un o'r penglogau 5,500 mlwydd oed.

'they sayd they sawe strange apparitions'

Un o'r beddrodau gorau i ymweld ag ef yw Tŷ Illtud, ger Llanfrynach yn ne Powys. Mae cloddio a chwarelu wedi gadael y siambr i'w gweld mewn pant bas. Gellir gweld graffiti anarferol wedi'u naddu i mewn i wyneb mewnol y siambr. Mae'n rhaid cropian i mewn i'w gweld, ac fe wêl yr ymwelydd wal gyda chroesau a sieffrynau, a hyd yn oed cerfiad  o delyn gyda phum tant. Er eu bod yn debyg i gelf beddrodau Neolithig eraill yng Nghymru ac Iwerddon, maent yn debygol o fod yn waith seiri maen a oedd yn chwarelu ar y brigiad carreg lorio cyfagos. Mae'n debyg yr oedd John Aubrey, yr hynafiaethydd o'r ail ganrif ar bymtheg, yn disgrifio Tŷ Illtud pan ysgrifennodd,'...under this Carn is hid great treasure. The Doctor caused it to be digged; and there rose such a horrid tempest of thunder and lightening, that the workmen would work no longer; and they sayd they sawe strange apparitions.’

Cyfrannwyd y stori gan: CBHC