Pêl-llaw: gêm y bobl

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,158
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 989
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 806
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Yn erbyn y wal

Yng Nghymru chwaraewyd pêl-law gyda phêl galed ledr gyda'r llaw yn erbyn ochr tŷ, eglwys, ac o'r ddeunawfed ganrif, mewn cwrt agored fel arfer gerllaw tafarn. Fe'i chwaraewyd o flaen tyrfaoedd am wobrau ariannol a hapchwarae. Defnyddiwyd cledr y llaw i fwrw'r bêl yn erbyn y wal cyn neu wedi iddi guro'r llawr unwaith. Yn debyg i sboncen ond heb y racedi, y bwriad oedd cadw'r bêl o gyrraedd y gwrthwynebwr ond o fewn ffiniau'r cwrt. Byddai'r chwarae'n parhau nes i un cystadleuydd fethu â dychwelyd pêl. Marciwyd y sgôr ar y wal flaen.

Roedd pobl yn aml yn cyfeirio at bêl-law yn 'fives'. Ym 1744, cafodd Joanna Lond o Abertawe'i chyhuddo o 'gadw tŷ hapchwarae penodol i chwarae gêm anghyfreithlon o'r enw 'fives',' er mai pêl-law oedd y gêm yn fwy na thebyg. Roedd y gêm fonheddig 'Eton fives', a chwaraewyd mewn ysgolion gramadeg yng Nghymru'n hollol wahanol i'r bêl-law dosbarth gweithiol, proffesiynol yn aml, a chwaraewyd yn bennaf ym Morgannwg.

Cwrt Pêl-law Llancaeach tua 1860

Yn Llancaeach, Sir Forgannwg, dechreuwyd chwarae'r gêm yn erbyn wal tafarn y Nelson Inn (The Village Inn erbyn hyn). Tua 1860 adeiladodd landlord tafarn y Royal Oak gerllaw gwrt pwrpasol i ddenu cwsmeriaid o dafarn y Nelson. Credir i fewnfudwyr o Iwerddon a oedd yn adeiladu rheilffyrdd y Great Western (lein Pontypool Road i Gastell-nedd), a Rheilffordd Cwm Taf, y ddwy yn rhedeg drwy'r pentref, helpu i ddylunio'r cwrt hwn. (Roedd pêl-law yn Iwerddon, ac mae o hyd, yn gêm y dosbarth gweithiol sy'n cael ei chwarae mewn cyrtiau mawr yn mesur 60'x30', fel cwrt Llancaeach).

Roedd cwrt Llancaeach yn ei anterth o 1880 tan yr Ail Ryfel Byd ac roedd twrnamaint blynyddol yn parhau o fis Mai tan fis Awst, ynghyd â llawer o hapchwarae. Codwyd rhwyd wifren ym 1913 ar ôl adeiladu Swyddfa'r Heddlu gerllaw ym 1910. Mae pêl-law'n cael ei chwarae yno o hyd.

Burrows Court, Jersey Marine

Yr unig gwrt pêl-law arall sydd wedi goroesi yng Nghymru yw cwrt Burrows Court yn Jersey Marine, Castell-nedd. Adeiladwyd gan y perchennog bragdy Evan Evans ym 1864; mae ganddo galon garreg yn y wal uchaf ac arysgrif sy'n darllen: 'Gwrol Galon Hyd Angau'. Dyma arwyddlun 17eg Corfflu Reifflau Gwirfoddol Morgannwg a sefydlwyd ar 2 Mehefin 1960 gydag Evan Evans yn gapten. Roedd y corfflu o gant o ddynion gan fwyaf yn weithwyr yn ei fragdy. Credir i'r cwrt gael ei ddefnyddio fel maes ymarfer saethu reifflau'r gwirfoddolwyr. Yn fwy na thebyg Burrows Court oedd cwrt pêl-law enwocaf y cyfnod. Yma ym 1875 curodd Dr Ivor Ajax-Lewis, pencampwr pêl-law Llantrisant, Mr Lovett, pencampwr Castell-nedd, mewn gêm enwog gyda 1,000 o wystlon betio! Roedd pencampwyr pêl-law eraill yn cynnwys Billy Newnham a'r efeilliaid Treharne o Bontypridd.

Cyrtiau posibl eraill

Mae'r llun uchod yn dangos olion cwrt pêl-law yn nhafarn yr Angel Inn (Pwysty erbyn hyn), Llantrisant. Roedd y cyrtiau pêl-law awyr agored hyn gyda'u waliau uchel yn olygfeydd cyfarwydd mewn llawer o bentrefi eraill ym Morgannwg ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae cyfeiriadau i chwarae pêl-law ger y tafarndai sy'n dilyn:

Old Ynysybwl Inn, Ynys-y-bŵl

Clwb y Gweithwyr, a thafarn yr Angel Inn (Pwysty erbyn hyn), Llantrisant

The Star, Gellidawel

The Globe Inn, Cwmaman

Chwaraewyd pêl-law hefyd ar safleoedd ym Merthyr Tudful, Llancaeach a Thonypandy, ac roedd cyrtiau yng Nghastell-nedd, Y Porth, Llantrisant ac Aberpennar tan yn ddiweddar.

Gostyngodd diddordeb yn y gêm ar ddechrau'r 20fed ganrif wrth i gludiant wella a'i gwneud yn bosibl i gasglu timau at ei gilydd ar gyfer gemau pêl-droed a oedd yn dod yn fwy a mwy poblogaidd. Er i'r gêm adfywio yn ystod dirwasgiad y 1930au a chredir i bêl-law gael ei chwarae ar y stryd yn Abertawe hyd at y 60au, cyn belled ag y gwyddwn, mae'r gêm nawr yn cael ei chwarae yng Nghwrt Llancaiach yn unig, sy'n fan chwarae gemau rhyngwladol.

Cyfrannwyd y stori gan: CBHC