Y Cysylltiad Cymreig: Ymfudo o'r Eidal i Gymru 1880au – 1950au

Eitemau yn y stori hon:

I lawer o Gymry, mae'r enw ‘Bracchi’ yn dod i'r  meddwl yn syth pan fydd rhywun yn sôn am ymfudo o'r Eidal i Gymru,  ac mae'n hawdd deall pam. Yn ôl y stori boblogaidd, fe wnaeth y teulu Bracchi sylwi ar fwlch yn y farchnad ar ôl cyrraedd ardal meysydd glo ffyniannus de Cymru o Bardi yn Emilia Romagna, ac fe agorwyd y Caffi Eidalaidd cyntaf yn y wlad yn yr 1880au – 1890au. Erbyn 1939, roedd y caffis Eidalaidd – a elwid gan y Cymry yn 'Bracchis' –  wedi ehangu ledled y wlad, ac roedd o leiaf un neu ddau ym mhob prif dref yng Nghymru.

Doedd hynny ddim yn golygu mai aelodau o deulu Bracci yn unig oedd yn rhedeg pob caffi wrth gwrs. Byddai Eidalwyr eraill – a hannai yn bennaf o'r bryniau o amgylch y Val Ceno – yn ymuno â nhw. Mae'r llawer o'r gweithiau sy'n archwilio hanes Cymreig-Eidalaidd – boed yn ddiwylliannol neu'n academaidd – yn rhoi cryn sylw i brofiadau'r 'bardigiani' yng Nghymru. Mae llawer wedi cael ei ddweud am y Sidolis, Antoniazzis, Servinis, Moruzzis, Chiappas a Carpaninis a thros y deugain mlynedd diwethaf,  grŵp yr Amici Val Ceno Galles fu prif lais y 'bardigiani' ac Eidalwyr yn gyffredinol yng Nghymru. Ond mae ymfudo o'r Eidal i Gymru yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Giacomo Bracchi a'i goffi ffrothi. Drwy ymchwilio’n ehangach, fe welir bod Eidalwyr wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i fywyd bob dydd yng Nghymru o oes Fictoria ymlaen. A dyma faes fy niddordeb i. Fy enw i yw Gareth White, ac rydw i'n ymchwilydd ôl-raddedig ac yn athro Eidaleg ym Mhrifysgol Bangor. Rwy'n gweithio ar draethawd PhD ar ymfudo o'r Eidal i Gymru rhwng yr 1880au a'r 1950au. Rwy'n ymchwilio i brofiadau Eidalwyr yn y gweithle yng Nghymru yn y cyfnod hwn  gan edrych ar sut roedd y profiadau hyn yn cyd-daro gyda digwyddiadau geowleidyddol, yn effeithio ar eu hymdeimlad o hunaniaeth, ac yn hwyluso eu hintegreiddiad yng Nghymru.

Gyda fy ymchwil, rwyf wedi bod yn ymchwilio yn ddyfnach i stori diwydiant lluniaeth Eidalaidd yng Nghymru a stori'r 'bardigiani', a hefyd wedi bod yn ei gysylltu â naratif ehangach sy'n rhychwantu dwy ganrif ac sy'n ymwneud ag Eidalwyr o bedair cornel o Il Bel Paese. Mae'n brosiect ymchwil sy'n cysylltu teuluoedd o Ogledd a De'r Eidal sy'n gweithio yn y diwydiant lluniaeth yng Nghymru â milwyr Eidalaidd a ddaliwyd yn Affrica ac a anfonwyd i Gymru yn garcharorion rhyfel, yn ogystal â'r Eidalwyr a gafodd eu contractio i weithio yn niwydiannau metel Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'n stori am ferched dewr Eidalaidd a Chymreig-Eidalaidd yn rhedeg y busnes teuluol tra oedd y dynion y cael eu caethiwo yn ystod yr Ail Ryfel Byd, am ddynion ifanc o'r Eidal yn gweithio gyda'i gilydd i adeiladu capeli a phaentio ffresgoau y tu ôl i wifren bigog gwersylloedd carcharorion rhyfel, am weithwyr dur dan gontract dros dro a fyddai yn y man yn dod yn artistiaid a pherchnogion bwytai Cymreig-Eidalaidd. Mae'n stori am ddwy wlad, dau fyd, a'r rhyngweithio fu rhyngddynt. A dyma lle gallwch chi fod o gymorth. Rydw i wedi bod yn cynnal cyfweliadau hanes llafar digidol ar gyfer fy ymchwil trwy Skype a / neu Zoom i ddarganfod mwy am yr Eidalwyr a dreuliodd amser yn y wlad hon. Os oes gennych chi hynafiaid wnaeth symud i Gymru rhwng yr 1880au a'r 1950au i weithio yn unrhyw un o'r diwydiannau isod, a'ch bod yn hapus i siarad am hanes eich teulu am tua awr, buaswn wrth fy modd yn clywed gennych chi. Rwy'n chwilio am Eidalwyr sydd:

  1. Wedi gweithio yn y diwydiant lluniaeth (1880au - 1950au)
  2. Wedi bod yn Garcharorion Rhyfel yng Nghymru (1940au)
  3. Wedi gweithio yn y diwydiant dur / glo / tunplat (1900au; 1950au).

Gallwch gysylltu â mi ar fy e-bost Prifysgol Bangor ([email protected]) os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu dilynwch fi ar Twitter (@rgwhite92).

Grazie, Gareth