Darganfod Bedrys 'Mantis' ym Mae Ceredigion, 1999

Eitemau yn y stori hon:

  • 408
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 520
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Yn 1999, yn ystod ein Harolygon Gwirfoddol i Archwilio'r Môr, daethom o hyd i boblogaeth o'r bedrysen 'Mantis Shrimp' (Rissoides desmaresti) ym Mae Tremadog. Mae Dr Rohan Holt yn dwyn i gof y plymiad a arweiniodd at y darganfyddiad hwn - a'r ffaith iddo gael ei drywanu gan y sampl cyntaf sawl tro! Golygai'r cofnod cyffrous yma bod cynefin tybiedig y rhywogaeth hwn yn ymestyn llawer mwy i'r gogledd nag a gofnodwyd yn flaenorol. Ers 1999 mae ymchwiliadau pellach gan Dr Holt a'r tîm wedi canfod bod y rhywogaetth yn bresennol mewn rhannau eraill o Fae Ceredigion. Yr hyn sy'n nodedig yw bod eu tyrchfeydd i'w canfod rmewn mannau sydd rhyw 10 - 15m o ddyfnder, lle mae graean mwdlyd sefydlog addas a thywod ar gael.