Cwmni Theatr Genedlaethol i Gymru

Eitemau yn y stori hon:


Yn 1965 sefydlwyd theatr Genedlaethol i Gymru - y Welsh Theatre Company - gyda dwy ganolfan, un ym Mangor a'r llall yng Nghaerdydd. Gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, nod y cwmni oedd teithio led-led y wlad gyda chynyrchiadau y Gymraeg ac yn Saesneg. Cyflogwyd tri actor a thair actores Gymraeg yn y lle cyntaf, yn cynnwys Gaenor Morgan Rees, Elisabeth Miles, Dyfan Roberts. Roedd aelodau gwreiddiol o'r bwrdd rheoli yn cynnwys Dr Thomas Parry, Helen Ramage ac ALun Llywelyn-Williams gyda Marcwis Ynys Môn yn Llywydd. Wilbert Lloyd Roberts oedd yn gyfrifol am gynyrchiadau adain Gymraeg y cwmni, ac yn 1973 gadawodd ei swydd fel Pennaeth Drama BBC Cymru er mwyn sefydlu Cwmni Theatr Cymru. Ymgartrefodd y cwmni yn Theatr Gwynedd, Bangor ddwy flynedd yn ddiweddarach, ond daeth y cwmni i ben yn 1982.