Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 1963, Llandudno

Disgrifiadau

Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1963
Llun 1: Robin Gwyndaf Jones -- gweler yr erthygl "Cri Anfodlon y Beirdd a'r Llenorion Ifanc"
Llun 2: Rhiannon Price -- gweler yr erthygl "Cri Anfodlon y Beirdd a'r Llenorion Ifanc"
Llun 3: Euryn Ogwen Williams -- gweler yr erthygl "Cri Anfodlon y Beirdd a'r Llenorion Ifanc"
Llun 4: Derec Llwyd Morgan -- gweler yr erthygl "Cri Anfodlon y Beirdd a'r Llenorion Ifanc"
Llun 5: Miss Enid M Roberts: A fynnaf yw, Cymru, yn ymryddhau o drafferthion Seisnigeiddio ac anystwythder -- gweler yr erthygl "Cri Anfodlon y Beirdd a'r Llenorion Ifanc" .
Llun 6: Dim disgrifiad
Llun 7: Ai dyma'r ieuengaf ymysg tyrfa fawr y Cymru ar Wasgar a esgynnodd i lwyfan y Brifwyl? Credai Geoff Charles mai ie - ac felly tynodd lun Eleri Mai Owen, 14 mis oed, o Melbourne, Awstralia ---.
Llun 8: Ond cafodd Ron Davies hyd i Samrra Arif o Iraq - a blwydd ac wythnos oed yw hi.
Llun 9: Yr unig ferch a ddyrchafwyd o Urdd Ofydd i'r Wisg Wen yng Ngorsedd y Beirdd yn Llandudno oedd Mrs Enid Watkins Jones (Enid Cynnwyd), Caerdydd. Talwyd teyrnged i'w gwasanaeth arbennig o'r diwylliant Cymraeg.
Llun 10: Yng Ngorsedd y Beirdd yn Llandudno, fore dydd Iau, dyrchafwyd y Parch. Jacob Davies, Alltyblaca, Llanybyther o Urdd Ofydd i'r Wisg Wen, yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth i'r diwylliant Cymraeg mewn llawer cylch.
Llun 11: O'r tu ol ymddangosent fel beirdd yn urdd y wisg wen. Ond pan droes y merched ieuanc hyn, aelodau o glybiau amaeth yr ieuanc i wynebu'r dorf mewn Noson Lawen yn Llandudno - wele ddawnswyr "can-can". Nid oes sail o gwbl i'r si fod merched yr orsedd yn mynd i fabwysiadu'r un drefn y flwyddyn nesaf.
Llun 12: Yn Llandudno eleni yr oedd mwy o Gymry ar Wasgar nag a welwyd erioed yn y Brifwyl - dros 500 ohonynt ac o saith ar hugain o wledydd. Dyma ran o'r orymdaith i'r llwyfan.
Llun 13: Yr eisteddfodwyr brwd yn y brifwyl yn Llandudno yw'r Heddwas Arthur Rowlands, a'i deulu, Caernarfon, gyda'r ci sydd yn gyfaill ffyddlon a gwasanaethgar. Dechreuodd yr heddwas ar ei waith wedi'r ddamwain flin i'w ran yn nyffryn y Dyfi.
Llun 14: Egwyl i'r beirdd. Gyda munud neu ddau wrth gefn i ddisgwyl gweddill y beirdd I wisgo amdanynt cyn mynd ar y llwyfan i seremoni'r cadeirio yn Llandudno yr oedd cyfle i Mr Wilbert Lloyd Roberts a Mr J E William i sylwi ar rannau o'r bryddest a gyhoeddwyd yn 'Y Cymro' diwethaf.
Llun 15: Mr Trebor Jones, Blaenau Ffestiniog, enillydd yr unawd bariton yn y brifwyl yn Llandudno.
Llun 16: Tri beirniad y brif gystadleuaeth adrodd am wobr Goffa Llwyd o'r Bryn yw Miss Cassie Davies, Miss Myra Jones a Mr Alun Ogwen Williams. Dyfarnwyd y wobr i Mr Stuart Jones, Rhoslan.
Llun 17: Dyfarnwyd prif wobr y gystadleuaeth adrodd gyda'r delun i Mr Geraint Lloyd Owen, Sarnau, Bala, a Chaernarfon, gyda Miss Ceinwen Roberts yn delynores.
Llun 18: Alun Jenkins, Capel Bangor, ger Aberystwyth a enillodd yr unawd bariton dan 25 oed, gyda'i gyfeilydd Eirwen James (15 oed), Lledrod, Sir Aberteifi.
Llun 19: Enillydd cenedlaethol y gystadleuaeth unawd i rai dan 15 oed oedd Mair Iona Jones (13 oed), Pandy Tudur, ger Llanrwst.
Llun 20: Y mae enw Dr R Arthur Hughes yn annwyl iawn yng Nghymru ers blynyddoedd ac yn arbennig ymysg y bobl sy'n ymddiddori yn y Genhadaeth Dramor. Ef yw prif feddyg ysbyty mawr Shillong - ac eleni arweiniai'r Cymry ar Wasgar yn y brifwyl.
Llun 21: Fel arfer, daeth y nifer helaethaf o'r Cymry ar Wasgar i'r Eisteddfod o'r Unol Daleithiau.
Llun 22: Dim o'ch "drinka pinta" i mi, ond glasiad o laeth y fuwch ddu Gymreig i dorri syched a diogelu iechyd, meddai Mai Williams, Pantyfedwen, Felinfach, ym mhabell y Bwrdd Marchnata Llaeth.
Llun 23: Enillydd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Llandudno yw Mrs Margaret Lewis Jones, Llanbrynmair (yn y canol), gyda Mr William Jones, Trawsfynydd, yr ail yn y gystadleuaeth, ar y chwith, a'r beirniad, Mr Meirion Williams, Llundain, ar y dde.
Llun 24: Mr Tom Parri Jones, Malltraeth, Sir Fon, bardd y goron ym mhrifwyl Llandudno.
Llun 25: Mr Tom Parri Jones, bardd y goron, ar y llwyfan, gyda'r Archdderwydd Cynan, William Morris a Crwys.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
4/9/2020
Gwelediadau:
1267
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment