Ffasiwn Menywod yn y Cyfnod Edwardaidd
Eitemau yn y stori hon
Daeth gwisgoedd 'dau ddarn' yn ffasiynol, gyda sgertiau oedd yn dilyn siâp gwaelod trwpmed yn gyffredin y blynyddoedd cynnar. Yn ddiweddarach, byddai sgertiau yn disgyn mewn plygiadau esmwyth oedd yn troi am allan ar y gwaelod ac fe wnaeth y wasg godi. Roedd llawes bwff ar ffrogiau o'r ysgwydd i'r benelin oedd yn cael ei chau gyda rhuban, a byddai gwaelod y llawes yn agor allan mewn pletiau cywrain, fel y gwelir yn rhai o'r eitemau.
Daeth gwisgo 'Te Gowns' y tu mewn (heb staes) yn arfer poblogaidd ymysg y dosbarth canol ac uwch yn ogystal, sef gwisgoedd wedi eu gwneud o ddeunyddiau esmwyth, gyda nifer o ryffls a les arnynt.
Yr ategolion mwyaf poblogaidd yn y cyfnod Edwardaidd oedd menyg hir, hetiau wedi eu trimio a pharasolau. Erbyn diwedd y cyfnod hwn daeth hetiau i fod yn fwy o faint, gyda chantel llydan ac o bryd i'w gilydd cânt eu haddurno gyda phlu mawr.
Rhoddwyd pwyslais ar amser hamdden yn y cyfnod hwn, a gwelwyd y dosbarth canol uwch yn arbennig yn dechrau ymgymryd â chwaraeon, gan arwain at ddatblygiad arall o fewn y byd ffasiwn gan fod angen dillad addas, mewn steil fwy hyblyg.
Y cyfnod Edwardaidd oedd y tro olaf i fodis neu staes gael ei wisgo gan ferched o ddydd i ddydd; yn gyffredinol, parhaodd y coleri i fod yn uchel mewn gwisg yn ystod y dydd, a dim ond yn ystod y blynyddoedd yn arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf y gwelwyd gyddfau is ar ddillad, gan gynnwys siâp 'V'.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw