Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

"y ferch bitw fach yma"IRENE STEER: hanes nofwraigWilliam de Lloyd yn cael ei gyfweld am ei atgofion am ei fam-gu, Irene SteerFy enw i yw William de Lloyd. Dwi'n ŵyr i Irene Steer. Cefais fy ngeni ar 10 Hydref 1943. Ganwyd fy mam-gu yng Nghaerdydd ar 10 Awst 1889. Mae hanes trist i'r teulu; bu farw'i brawd Mortimer yn 1883 o'r pâs; yna, roedd ei chwaer Gladys - llyncodd hi fotwm oddi ar siwt ei nyrs a bu farw'n 18 mis; ac yna'r trydydd plentyn, Linda, plentyn iach nes iddi fynd i ffwrdd i'r ysgol yn Henffordd a chael y diciâu ac, o'r adeg honno, roedd yn rhaid iddi gael nyrs i edrych ar ei hôl. Roedd hi ddwy flynedd yn hŷn na Mam-gu ac mae'n debyg fod y nyrs yn gas. Doedd yr un ohonyn nhw'n ei hoffi hi. Dwi'n meddwl bod 'na deimlad fod yn rhaid cael Mam-gu allan o'r tŷ gymaint â phosib, ac un o'r pethau roedd ei thad yn ei wneud oedd mynd â hi i wylio gemau rygbi ym Mharc yr Arfau. Byddai e hefyd ym mynd â hi i Faddonau Guildford Crescent, baddonau'r dref, a dechreuodd Mam-gu nofio pan oedd yn wyth neu naw oed. Dwi ddim yn meddwl fod nofio yn rhedeg yn y teulu; yn wir, mae fy modryb yn dweud ei bod hi'n amau a fu ei thad-cu a'i mam-gu yn nofio o gwbl. Roedd gan Mam-gu frawd iau, wyth mlynedd yn iau na hi. Syrpreis oedd e dwi'n meddwl. Priododd a bu farw ei wraig wrth roi genedigaeth. Ailbriododd eto â merch Arthur Gould, oedd yn enwog ym myd rygbi Casnewydd. Bu e'n nofio'n gystadleuol hefyd, ond ddim o ddifri, dwi ddim yn meddwl.Nid oes cofnod i Mam-gu gystadlu mewn unrhyw gystadlaethau neu galâu mawr nes iddi roi cynnig ar Bencampwriaeth Cymru yn Abertawe yn 1907 ac ennill, pan oedd hi'n 18. Mae gennym doriadau papur newydd hyfryd o'r adeg honno, yn cynnwys llun ohoni. Curodd hi Jenny Fletcher y diwrnod hwnnw, sef Pencampwraig Prydain, nofwraig ardderchog a ddaeth yn wrthwynebydd mawr ac yn ffrind i Mam-gu.Nofiwr broga oedd Mam-gu a dwi'n ei chofio hi'n dweud wrtha i eu bod nhw wedi dweud wrthi am ddefnyddio'r dull ymlusgo Awstralaidd, a dyna beth wnaeth hi. Roedd llawer o gystadlaethau i gael ar gyfer y dull rhydd ond dim cymaint i'r broga; yn sicr felly'r oedd hi yn y Gemau Olympaidd. Y tro nesaf i ni weld toriadau papur newydd yw yn 1909 pan wnaeth Mam-gu ennill Pencampwriaeth Cymru eto a gostwng ei hamser eto gryn dipyn. Mae'n debyg fod Mam-gu yn nofwraig osgeiddig iawn; roedd hi'n nofio ar yr wyneb, yn ysgafn iawn ac yn gyflym, yn hytrach na brwydro'i ffordd drwy'r dŵr.Aeth Mam-gu i Faddonau Hackney ar gyfer Pencampwriaethau Prydain, y tro cyntaf iddi nofio yn Lloegr. Cafodd ei brawychu pan welodd faint y pwll, roedd yn enfawr; roedd y pyllau roedd hi'n arfer nofio ynddyn nhw hanner y maint, ond addasodd yn ddigon buan, mae ei hamserau hi'n adlewyrchu hynny. Yn y rhagrasys, gorfu iddi nofio yn erbyn Jenny Fletcher a churodd hi Mam-gu i'r ail safle. Cafodd Mam-gu y fedal arian, anrhydedd uchel, wedi cyflawni camp anhygoel, i ddweud y gwir, a hithau ddim ond yn ei hail flwyddyn o gystadlu.1910 oedd ei blwyddyn fawr. Pencampwriaethau Prydain yn Weston-super-Mare y tro hwn a dyna Mam-gu yn cael ei thynnu yn erbyn Jenny Fletcher yn y rhagrasys eto ond, y tro hwn, Mam-gu sy'n ei churo hi, yn gyffyrddus yn ôl yr adroddiadau. Dwi'n siŵr nad oedd yn gyffyrddus iawn ond dwi'n meddwl ei fod yn fater o ychydig eiliadau a llwyddodd i ailadrodd hyn yn y ras derfynol, ac felly ennill yr aur, medal aur Prydain, rhywbeth a oedd yn golygu llawer iawn iddi ymhlith ei holl lwyddiannau:"Cafodd y pedair boneddiges gymeradwyaeth frwd pan ddaethant allan i'r ras derfynol. Miss Fletcher oedd yn safle cyntaf, Miss Steer yn yr ail [Mam-gu oedd honno], Miss McKay rhif tri a Miss Spears ar y tu allan. Cafwyd dechrau da, Miss Steer oedd yr olaf i fynd i mewn i'r dŵr o drwch blewyn. Ond yn fuan iawn roedd Miss Steer yn ennill tir ac ar ugain llath roedd hi fymryn ar y blaen. Ar y troad cyntaf, roedd Miss Steer lathen o flaen deilydd y teitl gyda Miss Spears yn drydydd ar bellter tebyg i ffwrdd yn cyflymu at yr ail hyd. Miss Steer yn nofio'r gwir ddull ymlusgo, yn ennill cryn dipyn ar y deilydd ac yn arwain o bum llath pan droon nhw ar gyfer y rhan olaf. Gwnaeth y deilydd, a oedd yn defnyddio'i hoff ddull dros ysgwydd, y tro yn berffaith a lleihaodd hynny'r bwlch o ryw ddwy lathen, ond setlodd Miss Steer i lawr i'w hymlusgo, gyrrodd ymhell ar y blaen unwaith eto, gan ennill i fanllefau mawr tua chwe llath o flaen y deilydd, gyda Miss Spears bedair llath y tu ôl wedyn. Un o'r rhai cyntaf i longyfarch y pencampwr newydd oedd Miss Fletcher. Ysgwydodd hi ei llaw cyn gynted ag y daeth allan o'r dŵr a dweud, 'Eich tro chi yw hi nawr Miss Steer' a 'Rydych chi'n ei haeddu am eich nofio godidog.'"Roedd rhyw ffurfioldeb mawr rhwng y bobl hyn. Dim Jenny neu Rene, neu beth bynnag; ond Miss Steer a Miss Nicholson. Bendigedig! Ac yna, Pencampwriaethau Prydain yn 1911 ac oherwydd salwch ei chwaer, dwi'n cymryd, methodd Mam-gu â chystadlu. Yna, i ffwrdd i Stockport ar gyfer y treialon Olympaidd ac erbyn hyn mae Mam-gu yn enwog - wrth ennill y Bencampwriaeth Brydeinig flaenorol, roedd hi wedi dod yn gyfartal â record y byd - ond nid oedd llawer o'r merched oedd yn cystadlu yn ei hadnabod, yn bersonol, a phan edrychon nhw arni, fe welon nhw'r ferch bitw fach yma. Pum troedfedd dwy fodfedd oedd hi; roedd ganddi draed bach iawn; roedd hi'n llai nag wyth stôn. Peth bach main oedd hi ac fe gymeron nhw gysur, dwi'n meddwl, o'r ffaith eu bod nhw'n fwy ac yn gryfach na hi. Erbyn hynny mae'n debyg ei bod hi cyn gyflymed ag unrhyw un ym Mhrydain; roedd hi wedi pasio Jenny Fletcher erbyn yr adeg honno. Roedd yna un nofwraig, o Lerpwl dwi'n credu, Miss Kerwin, ac roedd hithau wedi dod yn gyfartal â record y byd, felly roedden nhw'n sgwad cryf ar gyfer y Gemau Olympaidd. Mae'n sicr fod Mam-gu wrth ei bodd â'r syniad o fynd i Stockholm yn 1912. 22 oedd hi, dwi'n credu.Roedd y cyfarwyddiadau ynghylch yr hyn y gallen nhw ac na allen nhw ei wisgo yn ddiddorol iawn. Doedd ganddyn nhw ddim gwisg ffurfiol ar y pryd ond dywedwyd wrthyn nhw fod yn rhaid iddynt wisgo rhywbeth mewn glas gweddol dywyll, neu siwt, brethyn o ryw fath, ac y gallen nhw wisgo het wellt, a dyna wnaeth hi. Roedd gorymdeithio i mewn i'r stadiwm yn brofiad bythgofiadwy iddi hi. Felly, cafodd Mam-gu ei chyfarwyddiadau gan y Gymdeithas Nofio Amatur, rhaglen swyddogol, a'r rheolau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Olympaidd Sweden ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Stockholm. Cawsant docynnau hefyd, wrth gwrs, rhoddwyd tocyn iddynt ac roedd llong yn eu disgwyl. Roedd yn rhaid iddynt fynd ar y trên o Hull. Aeth ei thad gyda Mam-gu. Dwi'n meddwl fod Mam-gu wedi disgrifio hyn mewn ffordd neis. Dywedodd fod `na fechgyn hyfryd yno. Roedd hi'n hoffi dynion. Dwi'n meddwl ei bod hi'n fwy cysurus gyda dynion na merched, i ddweud y gwir. Doedd hi ddim yn hoffi difyrion merchetaidd; roedd hi dipyn yn hapusach yn mynd i gêm bêl-droed neu'n nofio neu'n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn rhyw ffordd. Roedd hi'n gwerthfawrogi'r athletwyr mawr cryf yma oedd yn gwmni iddi ar y ffordd i Stockholm ac roedden nhw'n ddynion chwe throedfedd golygus, meddai hi. Eisteddon nhw i lawr i ginio'r noson gyntaf ac, un ar ôl y llall, dechreuodd y dynion mawr cryf yma fynd yn sâl iawn gyda salwch môr, felly roedd Mam-gu mewn hwyliau da iawn; credai ei bod hi gystal â nhw bob tamaid!peth ofnadwyFe gyrhaeddon nhw Stockholm a chymryd rhan yn y Seremoni Agoriadol. Mater o aros am ragrasys y 100 metr unigol oedd hi wedyn (roedden nhw'n nofio mewn metrau yno yn hytrach na llathenni, fel roedden nhw'n ei wneud gartref). Yn ras gynderfynol Mam-gu, cafwyd cam-gychwyn, ond wnaethon nhw ddim sylweddoli nes oeddent wedi nofio hyd y pwll, felly roedd yn rhaid i Mam-gu druan fynd yr holl ffordd yn ôl ac roedd yn rhaid iddyn nhw ddechrau eto ac i ffwrdd â nhw, unwaith eto. Roedd Mam-gu yn arwain yn gyffyrddus yn ei rhagras ond, yn anffodus, ar ôl troi, cyfarfu ag Almaenes oedd yn dod i fyny at ei throad cyntaf, ac roedd yna ychydig o 'dos allan o'm ffordd i' math o beth. Dwi'n deall fod tipyn o hergydio'n digwydd bryd hynny, achos doedd `na ddim llinellau, dim rhaffau, dim byd i ddangos ble roedd y llinellau. Enillodd Mam-gu'r ras ond cafwyd gwrthwynebiad gan dîm yr Almaen a oedd yn dweud ei bod hi wedi croesi'r llinell ac, yn anffodus, cafodd Mam-gu ei diarddel. Alla i ddim ond dychmygu sut roedd hi'n teimlo; mae'n rhaid ei fod yn wirioneddol ofnadwy ar ôl ei holl ymdrechion i gyrraedd Stockholm.Llwyddodd i roi'r peth yng nghefn ei meddwl, ond yna roedd yn rhaid iddi eistedd i wylio'r ffeinal. Enillwyd y ras gan ferch o Awstralia a gurodd record y byd, ac Awstraliad ddaeth yn ail hefyd. Daeth Jenny Fletcher yn drydydd; roedd Mam-gu yn meddwl ei bod hi'n gwybod hyd a lled Jenny Fletcher erbyn hyn a dwi'n meddwl fod Jenny Fletcher yn gwybod hynny hefyd. Mae'n rhaid fod Mam-gu yn ddistaw bach wedi teimlo'n siomedig iawn.gwneud iawnOnd cafodd gyfle arall. Yn ffeinal y ras gyfnewid, Mam-gu oedd angorwr y nofio. Roedd yn ras addawol: yr Awstraliaid yn y rhes gyntaf, Prydain yn yr ail, ac Awstria wedyn dwi'n meddwl, yna'r Almaen. Does dim adroddiadau ysgrifenedig am y ras, yn anffodus, felly dydyn ni ddim yn gwybod yn union beth ddigwyddodd, ond dywedodd Mam-gu, pan aeth hi i mewn i'r dŵr, doedden nhw ddim yn ennill o bell ffordd. Roedd yn rhaid iddi geisio dal i fyny, ac mi wnaeth hi hynny, yna llwyddodd i fynd ar y blaen, ac, wrth gwrs, fe enillon nhw, a thorri'r record. Yr Almaen ddaeth yn ail ac Awstria yn drydydd.Roedd gorfoledd mawr, wrth gwrs, ac roedden nhw'n gorymdeithio o amgylch y pwll nofio. Daeth Brenin Sweden i lawr a chafodd ei gyflwyno iddyn nhw. Rhoddodd ef dorchau llawryf ar eu pennau ac roedd yn gyffrous iawn, gyda'r anthem genedlaethol yn gyfeiliant. Roedd yn foment wych, ac yn mwy na gwneud iawn am ei siom bersonol am yr hyn a ddigwyddodd yn y rhagras unigol. Tynnwyd eu llun, wrth gwrs, rydych wedi gweld y llun enwog o'r tîm o bedair merch ac, yn eu plith, roedd yr hyn y byddech chi'n ei alw'n hyfforddwr y dyddiau hyn, ond ddim y pryd hwnnw; chaperone oedd hi ac roedd eu gwisgoedd nofio bron yn dryloyw, roedd yn rhaid iddyn nhw wisgo nicer a bra bach, ond nid oedd hynny wedyn yn cuddio llawer. Anhygoel yn yr oes honno.16 gorffennafFe briododd hi yn 1915. Roedd hi'n dal i fynd i galâu ac yn dal i chwarae polo dŵr, ond nid y nofio cystadleuol yr oedd hi wedi bod yn ei wneud hyd at y Gemau Olympaidd. Enillodd y fedal Olympaidd ar 16 Gorffennaf 1912, priododd ar 16 Gorffennaf 1915, ac ar 16 Gorffennaf 1916 ganwyd ei merch hynaf, sef fy mam i. Cafodd ferch arall, Jo, a thrydedd ferch Rene, ac roedden nhw i gyd yn dda iawn mewn chwaraeon hefyd. Enillodd Rene y Bencampwriaeth Tenis Iau dair gwaith o'r bron cyn y rhyfel, a chwaraeodd fy mam a'm modryb Lacrós dros Gymru.cynrychioli CymruRoedd hi'n ymfalchïo mewn bod yn Gymraes. O Preston roedd ei gŵr yn dod yn wreiddiol, a daeth yn ddeintydd i Gaerdydd. Roedd hi'n dod o gefndir Cymreig ei hun, ac yn ei hystyried ei hun yn Gymraes go iawn. Roedd hi bob amser yn cefnogi ac yn falch o unrhyw lwyddiannau a ddeuai i Gymru, ond trosglwyddodd ei theyrngarwch o rygbi i bêl-droed, oherwydd ei gŵr oedd cadeirydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Roedd rheidrwydd bron arni i fynd i wylio Caerdydd, ond roedden nhw'n dîm o chwaraewyr gwych ac wrth fynd i mewn i'w tŷ, byddech yn gweld lluniau o holl dimau Dinas Caerdydd ar hyd y landin, roedd hynny'n wych! Credai hi fod pêl-droed yn gêm ardderchog ac roedd yn ei mwynhau'n fawr. Roedd hi'n dal yn falch o fynd i wylio Caerdydd pan oedd hi'n 87. Roedd hi wedi'u gweld nhw ar frig yr ysgol, wedi eu hadnabod nhw i gyd yn bersonol, a dyma nhw bellach yn ffwndro yn y drydedd adran, ond roedd ei brwdfrydedd hi cyn gryfed ag erioed.Roedd hi'n dwlu ar bobl fel John Charles ac Ivor Alchurch. Roedd gan John Charles siop gydag Alan Priday yn Rhiwbeina ac roedd Mam-gu bob amser yn awyddus iawn i fynd yno rhag ofn fod John Charles yno ... ond anaml iawn oedd hynny! Cyfarfu â Fred Keenan. Roedd hi'n eu hadnabod nhw i gyd; bu ym mocs y Cyfarwyddwyr am flynyddoedd maith. Pan oeddwn i'n fach, roedden ni bob amser yn mynd i focs y cyfarwyddwyr ac yn cael cwrdd â'r holl bobl hyn. Chwaraeon oedd ei chariad pennaf hi.96 mlyneddByddai Mam-gu wedi bod wrth ei bodd â medal aur Nicole Cooke yn Beijing. Byddai wedi bod yn hapus iawn dros Nicole. Roedd honno'n fedal aur ardderchog, onid oedd, camp aruthrol, 96 mlynedd ar ôl medal gyntaf Mam-gu i Gymru. Rydym wedi gorfod aros yn hir, yn do?

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw