Dolffin Risso wedi marw

Eitemau yn y stori hon:

  • 422
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
Gan ymateb i alwad a ddaeth yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, mae Ben yn disgrifio sut y bu iddo ganfod dolffin Risso wedi ei olchi i'r lan ym Mae Cemlyn. Mae'n cofio fel yr oedd pawb a ymatebodd i'r alwad wedi eu tristhau o fod mor agos at un o'r mamaliaid môr anarferol yma. Disgrifia groen y dolffin sy'n llawn hanes am ei ymwneud cymdeithasol wrth iddo gael ei greithio wrth chwarae ac ymladd ag eraill, ac o bosib o fwydo ar ystifflog (squid) wrth iddo fynd yn hŷn. Dywed bod hyn yn gwneud meddalwch croen yr anifail yn fwy o syndod fyth.