Wyau gwylanod i'r milwyr

Eitemau yn y stori hon:

  • 823
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 591
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 542
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Casglu wyau gwylanod yn ystod yr Ail Ryfel Byd: mae Peter Williams, arlunydd a hanesydd o Amlwch yn disgrifio atgofion y teulu o helpu milwyr wedi eu hanafu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. 'Peth arall a arferai ddigwydd o gwmpas ffordd hyn nad oes llawer o bobl yn gwybod amdano yw yn ystod y Rhyfel, fel y gwyddoch roedd llawer o ddynion wedi eu hanafu a'u clwyfo - milwyr - yn cynnwys aelodau o'r llynges ac awyrenwyr. Ac un o'r prif bethau roedden nhw'n arfer eu bwydo i gadw eu hegni oedd wyau gwylanod. Hynny ydi, dwi wedi blasu wy gwylan a, dach chi'n gwbod, mae'n blasu ychydig yn bysgodaidd, ond heblaw am hynny, mae o jest fel wy wedi ffrio mawr. Cafodd fy nhaid ei gyflogi gan y weinyddiaeth rhyfel i fynd allan i'r ynysoedd oddi ar yr arfordir lle byddai gwylanod yn arfer bridio, ac fe fyddan nhw'n cymryd - dwi'n meddwl y byddan nhw'n cymryd un wy o bob nyth. Roedden nhw'n arfer cael y bocsys arbennig yma wedi eu gwneud, efo haen o wellt, neu beth bynnag, ynddyn nhw, a byddai'r holl wyau wedi cael eu gosod yn y bocsys ar wahân, fel na fydden nhw'n torri ac wrth gwrs, roedden nhw'n casglu, yn llythrennol cannoedd, os nad miloedd, o wyau, a dwi'n cofio fy ewythr, oedd yn ddyn ifanc bryd hynny (fy nhaid fyddai yn gofalu am y gwch), ond mi fyddan nhw'n mynd allan ac i'r creigiau ar yr ynys, ac mi fyddai ganddyn nhw fag yr un, ac mi fyddan nhw'n llythrennol yn llenwi'r bag gyda wyau gwylanod. Ac, wyddoch chi, mi oedd yn rhaid bod yn ofalus iawn, achos tasach chi'n torri un mi fyddan nhw'n mynd i ddrewi'n ofnadwy. Ac mi fyddan nhw'n dod â nhw ar fwrdd y cwch ac yna'n eu rhoi yn y bocsys neu gratiau yma ac, wrth gwrs, mi fyddan nhw'n cael eu pentyrru; roedden nhw'n trio cael cymaint a phosib ohonyn nhw ar y cwch. A byddai fy nhaid, yn llythrennol, dim ond megis gallu edrych drostyn nhw, 'dach chi'n gwybod. Ac mi fyddan nhw'n dod â nhw i'r lan, lle, dwi'n dychmygu, byddai cerbyd o ryw fath - tryc - 'dach chi'n gwybod yn mynd â rhai o'r rhain i ffwrdd, dydw i ddim yn gwybod ble, ond fwy na thebyg i'r ysbytai neu lle bynnag roedd y dynion hyn yn arfer ymadfer ac mi fyddan nhw - dwi ddim yn gwybod - yn gwneud omlet neu rhywbeth efo nhw. 'Dwn i ddim ... Roedd y cwch oedd gan fy nhaid, roedden nhw'n arfer ei alw'n fad achub cynorthwyol oherwydd yn ystod y Rhyfel, wyddoch chi, roedd cychod swyddogol yr RNLI o gwmpas, ond ny porthladdoedd bach yma oedd heb fad achub, oherwydd bod ganddo fo gwch efo modur ynddo, pe bai yna rai yn cael eu hanafu allan yn y bae yna - llong yn suddo, neu beth bynnag - wel mi fyddan nhw'n gofyn iddo fo i fynd allan i achub bywydau. Ac roedd o - dwi'n dychmygu - yn derbyn tâl bychan am hyn, ac roedd yn dod o dan yr Adran Rhyfel.'