arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Pysgota Penwaig

Mae Peter Williams, arlunydd a hanesydd o Amlwch yn cofio ei deulu yn pysgota penwaig yng nghanol y ganrif ddiwethaf.

Eitemau yn y stori hwn

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Dyniion yn gweithio gwch

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Y cwch teuluol oddi ar Amlwch

Mae Peter Williams, arlunydd a hanesydd o Amlwch, yn cofio ei deulu yn pysgota penwaig yng nghanol y ganrif ddiwethaf.

"Rydyn ni ar hyn o bryd ym Mhorth Amlwch. Y tu allan i'r llofft hwylio, a adeiladwyd yn wreiddiol er mwyn gwneud hwyliau ar gyfer y llongau a adeiladwyd yma.
Roedden ni'n sôn am yr hen fflyd dal penwaig oedd yn arfer bod o gwmpas y lle yma. Roedd Porth Llechog yn amlwg iawn, ac roedd ganddynn nhw fflyd pysgota penwaig. A Moelfre? Maen nhw'n dal i'w galw yn 'benwaig Moelfre' yno.

"Roedd ganddyn nhw ychydig o bysgotwyr o gwmpas fan hyn (Amlwch). Roedd fy nhad yn un ohonyn nhw a fy nhaid, a llwyth o'i ffrindiau ac wrth gwrs roedd y pysgod yn symud o gwmpas gyda'i gilydd ac yn
dod i'r ardal hon tua mis Tachwedd. Beth fydden nhw'n ei wneud - ychydig y tu allan i'r man lle'r ydyn ni yma - roedd craig, craig wedi suddo - "Garrag Buoy", roedden nhw'n ei alw/ (Roedden nhw'n ei galw hi'n hynny achos
roedden arfer rhoi bwi arni ac o'r bwi hwnnw, roedden nhw'n arfer taflu'r rhwydi penwaig, ymhell allan i'r bae. Ac wrth gwrs pe baen nhw'n eu gadael yno am ychydig oriau, y peth nesa, byddai'r rhwydi'n hollol llawn o benwaig
achos roedden nhw'n arfer heidio i fyny'r arfordir yma. Roedd yna rai achlysuron lle roedd cymaint o bysgod, cymaint o benwaig yn y rhwydi fel bod y cychod (rhaid ichi gofio mai dim ond rhai 14-16 troedfedd oedden nhw)
yn cael eu llenwi ac roedd yn rhaid i chi yn llythrennol edrych lle roeddech chi'n camu, achos mi allech chi achosi i'r gwch dro drosodd oherwydd pwysau'r pysgodyn. Roedden nhw'n fynyddoedd mawr o benwaig ac mi fydden
nhw'n neidio o gwmpas, wyddoch chi. Mae'n rhaid ei bod hi'n amser diddorol bryd hynny - ac wrth gwrs doedden nhw ddim wedi gwneud llawer o arian allan ohonyn nhw, ond dwi'n cofio fy nain yn dweud eu bod yn arfer cael
dimai am bob penwaig, felly mae'n debyg y byddai o - pe baech chi'n dal miloedd o benwaig - yn arian da.

"Roedd yr holl bobl leol yn cymryd rhan, y pysgotwyr a'r gwragedd. Byddai'r gwragedd, ar ôl iddynt gael y penwaig, yn eu diberfeddu, eu glanhau “Roedd yr holl bobl leol yn cymryd rhan, y pysgotwyr a'r gwragedd.
Byddai'r gwragedd, ar ôl iddynt gael y pysgod, yn eu diberfeddu a’u llnau nhw ac yna yn eu rhoi mewn casgenni. A byddai ganddyn nhw flociau mawr o halen, a chyllyll, a bydden nhw jest yn torri'r halen a’i wasgaru.
Yna, byddech chi'n rhoi haenen yn y gasgen ac yna ychwanegu ychydig mwy o halen (gan fod halen yn cadw’r pysgodyn), ac wedyn fe fydden nhw’n adeiladu ar hynny, nes byddai’r gasgen yn llawn,
a bydden nhw’n rhoi caead arnyn nhw a’u selio fel nad oedd unrhyw hylif yn dengid ohonyn nhw wyddoch chi, ac wedyn fe fyddan nhw’n mynd â nhw i’r orsaf drên lleol lle bydden nhw’n cael eu cludo i lefydd fel Llundain ....
yn lân bryd hynny ac yna byddent yn eu rhoi mewn casgenni.

"Mae'n rhaid i chi gofio bod pob pysgodyn yn dymhorol - fel y macrell, maen nhw yma tua mis Gorffennaf neu Awst fel arfer. Byddai'r penwaig o gwmpas y lle tua mis Tachwedd yn yr hen ddyddiau,
ond dim ond am dair wythnos efallai cyn byddan nhw'n mynd i fyny'r arfordir. Rhai o'r arwyddion cyntaf fyddai - wel, byddai'r dŵr ... byddai llawer o sblasio o gwmpas gan y byddent ar ôl y silod mân
wyddoch chi; dyna'r hyn y bydden nhw'n ei fwyta ac wrth gwrs dyna oedd yr arwydd sicr i chi gael y rhwydi'n barod i'w taflu ...

Moelfre - roedd ganddyn nhw fflyd penwaig eithaf mawr yno a hefyd Porth Llechog. Fy nhad-cu - roedd ganddo dri brawd ac roedden nhw i gyd yn bysgotwr ac roedd ganddyn nhw i gyd rwydi.
Roedden nhw'n arfer taflyd rhwydi allan ym Mhorth Llechog, ac roedden nhw hefyd yn dal y penwaig ac yn gwneud yr un peth. Byddai'r gwragedd yn cymryd rhan, ac roedd o'n waith budr, wyddoch chi,
ddim yn waith neis iawn, oherwydd y drafferth gyda phenwaig, fel macrell, ydi bod llawer o mae llawer o gennau yn dod i ffwrdd, ac mae'n debyg y bydden nhw wedi cael eu gorchuddio efo'r cennau ac y byddai hi'n
joban ddrewllyd iawn, ond roedd yn rhaid iddyn nhw fod yn dda efo cyllyll, dach chi'n gwbod, er mwyn eu diberfeddu nhw a'u llnau nhw."

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw