Astudiaeth Achos: Llongddrylliad y Royal Charter

2331 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Ar 25 a 26 Hydref 1859, cafwyd un o’r stormydd gwaethaf erioed yn hanes Prydain. Tarodd arfordir Cymru, gan suddo bron i 150 o longau. Yr enwocaf ohonynt oedd y llong stêm y Royal Charter, a ddrylliwyd ar arfordir Môn gan ladd 450. Mae llongddrylliadau’r Storm Fawr yn rhoi darlun unigryw o’r cyfnod Fictoraidd yng Nghymru, ac yn ffordd o archwilio ein cysylltiadau â gweddill y byd, diwydiannau coll y môr, a chymdeithas y cyfnod.

Treuliodd tair ysgol o Ynys Môn fisoedd yn astudio llongddrylliad y Royal Charter mewn project oedd yn bartneriaeth rhwng Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Gallwch ddarllen am eu project, casglu syniadau ar gyfer gweithgareddau dosbarth a gweld esiamplau o waith y disgyblion. Gallwch hefyd archwilio’r ffynonellau y buont yn eu defnyddio ar wefan Casgliad y Werin, gan gynnwys arteffactau aur hyfryd ac eitemau bob-dydd o longddrylliad y Royal Charter.

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd

Hanes

Oed: 8-11 / Cam Cynnydd 3

 

Astudiaeth achos

Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Cwricwlwm i Gymru

Age: 8-11 / Progression Step 3
Age: 8-11 / Progression Step 3
Age: 8-11 / Progression Step 3

Lawrlwytho'r Adnodd Dysgu

Llongddrylliad_y_Royal_Charter.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Royal_Charter_shipwreck.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw