Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cafodd manylion technegol y llong eu cofnodi mewn llyfr arbennig gan yr adeiladydd llongau, William Gray & Co. o Hartlepool. Mae’r cofnod hefyd yn nodi’r dyddiad y cafodd perchnogaeth y llong ei throsglwyddo i Francis Yeoman o West Hartlepool ar 24 Ionawr 1906.

Daeth William Gray i mewn i’r diwydiant adeiladu llongau ym 1863 mewn partneriaeth â Joseph Denton. Tyfodd y cwmni ac erbyn i’r Rhyfel Mawr dorri allan roedd yn cyflogi 3,000 o ddynion a oedd yn gweithio ar un llithrfa ar ddeg. Roedd hefyd yn berchen ar y Central Marine Engine Works. Parhaodd i gynhyrchu llongau drwy gydol y rhyfel, gan gwblhau 30 o leiners cargo ac agerlongau tramp, 13 o longau i’r Morlys, a 30 o longau cargo ‘safonol’ i Reolydd Llongau’r llywodraeth.

Adeiladwyd y CHELFORD gan William Gray & Co, West Hartlepool, ym 1906, i Francis Yeoman & Co. o West Hartlepool. Bu farw Francis Yeoman ym 1914 ac ar y pryd, ei fab, Harry Yeoman, oedd rheolwr berchennog y CHELFORD yn 133 Exchange Buildings, Caerdydd. Roedd y CHELFORD mewn balast, h.y. nid oedd yn cludo cargo, ac ar ei ffordd o Glasgow i Barry Roads ar 14 Ebrill 1918 pan gafodd ei suddo gan dorpido wedi’i danio gan yr UB 73 yn Sianel San Siôr. Llwyddodd y criw cyfan i ddianc cyn i’r llong suddo.

Ffynhonnell:
MAS260418. William Gray & Co Yard Book. The Museum of Hartlepool, Hartlepool Borough Council.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw