Disgrifiad

Mae rhestr griw olaf y DERBENT yn dangos bod y llong yn eiddo i’r Morlys. Winston Churchill oedd yr Arglwydd Uchel Lyngesydd ar y pryd. Fel yn achos llongau eraill y Llynges Frenhinol Atodol, morwyr sifil oedd criw y DERBENT. Mae’r rhestr yn cofnodi enw, oedran, man geni a chyfeiriad pob aelod o’r criw, a’r llong y buont yn gwasanaethu arni ddiwethaf.

Roedd criw y DERBENT yn hanu o lawer o leoedd yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon, a hyd yn oed o wledydd tramor: Texas, UDA; Cape Town, De Affrica; Jamaica; Denmarc a Groeg.

Ymunodd llawer o’r criw â’r llong yn Plymouth ym mis Awst 1917, ar ôl i’r DERBENT gwblhau ei mordaith mewn confoi o Hampton Roads. Ymunodd eraill yn Lerpwl, Manceinion a Bryste. Mae’r dyddiadau hyn yn rhoi mwy o wybodaeth i ni am batrwm y mordeithiau yr ymgymerwyd â nhw dan y Capten Arthur Falconer tua diwedd 1917. Roedd yr holl deithiau hyn o gwmpas arfordir Cymru.

Ffynhonnell:
BT 165/1737. Extracted Logs: Ship's Name Derbent Official Number 136706 Dates of Voyages 3 February […] 30 November 1917. BT - Records of the Board of Trade and of successor and related bodies. The National Archives, Kew.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw