Skip to main content

Ffotograff stiwdio o George a Charles Jenks yn eu gwisgoedd morwrol (1906)

Disgrifiadau

Y ddau forwr yn y ffotograff hwn yw George Jenks, yn eistedd, a'i frawd Charles, yn sefyll.

Tynnwyd y llun ym 1906. Erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd George yn Brif-Wner ar HMS TRIUMPH. Goroesodd ymosodiad torpido ger Gaba Tepe, y Dardanelau, ond lladdwyd 75 dyn pan suddodd y llong.

Yn dilyn awgrym gan George, ymunodd Charles â'r Gwasanaeth Llong Danfor ar 24 Tachwedd 1916, gadawodd am Fôr y Gogledd fel rhan o batrôl ar Long Danfor EM E37. Collwyd ef tua 1 Rhagfyr. Credir i'r llong danfor daro yn erbyn ffrwydryn. Ni ddarganfuwyd y llongddrylliad erioed. Nid oes gan Charles fedd ond y môr.

Dafyn Jones, Edern, a ddaeth â’r eitem hwn i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei rannu. Wnaeth ef etifeddu'r ffotograff oddi wrth ei hen-daid, George.

Owner:
Dafyn Jones, Edern
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
13/12/2018
Gwelediadau:
671
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment