arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Roedd y cynhwysydd tun hwn yn eiddo i’r Capten William Davies, Nefyn. Câi’r tuniau hyn eu defnyddio i storio’r dogfennau swyddogol a oedd yn perthyn i bob llongwr a wasanaethai gyda Llynges Fasnachol Prydain. Roedd y cas metel a ffit dynn y caead yn diogelu’r dogfennau papur rhag cael eu difrodi gan ddŵr.

Wyrion William Davies, John Davies, Dinbych, a David Davies, yr Wyddgrug, a ddaeth â’r eitem hwn i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei rannu. Gwnaethon nhw etifeddu'r dogfenni a'r arteffactau morwrol hyn o'u taid.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw