Cerdyn post oddi wrth George E. Thomas at ei fam, Catherine Ann Thomas, Rhydyclafdy
Disgrifiadau
Dyddiad: anhysbys
Trawsysgrif:
Just air mi gefais eich lythyr heddyw a da oedd gennyf ei gael a deall eich Bod yn iach fel ag wyf finnau[.] Cigarets does ddim bosib [?o] cael nhw yma[.] wyf yn smocio mwy or rhain y rwan eto na pipell[.] fuom yn yr Eglwys yma lawer gwaith, yn trainio yn ei ymyl hi hefyd[.] Eglwys fawr iawn oeddi mewn, fasa Eglwys Llanfinhegl yn mynd i mewn iddihi[.] mi fydda falch o arian[.] wyf disgwl cael i rhai or lle ar ll? Dolig yma rwfath a llynedd[.]lle drud sobor sydd yn fas yna. Gyda
cofion
Goreu
George
Mrs Thomas / Glanrafon / Rhydyclafdy / Nr Pwllheli / N.Wales Carnarvonshire
Gina Miles, Pontypridd, a ddaeth â’r eitem hwn i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei rannu. Wnaeth hi etifeddu'r casgliad cardiau post hwn o'r teulu Thomas.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment