Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd cadeiriau cludo yn boblogaidd yn Ninbych-y-Pysgod o'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Yn ystod y 19eg ganrif roedd masnachwr o'r enw Cadwallader, oedd a'i fusnes ar Frog Street, yn eu rhoi ar log. Byddai merched yn cael eu cludo ynddynt ar eu ffordd i ddawnsiau, partïon neu i gymdeithasu.

Defnyddiwyd y gadair hon i gludo Miss Stokes, priodferch un o Feiri Dinbych-y-Pysgod, i'r eglwys yn Hwlffordd ar ddiwrnod ei phriodas ym 1872. Fe gyflwynwyd y gadair i Amgueddfa Dinbych-y-Pysgod ym mis Ebrill 1896 gan y teulu Richards, Croft House a fu'n chwarae rhan blaenllaw ym mywyd cyhoeddus y dref.

[Ffynhonnell: Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-Pysgod]

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw