Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r gadair ffon Gymreig yn aml yn cael ei chategoreiddio fel un sydd o wneuthuriad cyntefig ac ar yr olwg gyntaf mae’n ymddangos bod y gadair hon yn perthyn i'r grŵp hwnnw. Fodd bynnag, o edrych yn fanylach, mae'n amlwg bod gan ei wneuthurwr yr hyder, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ynghylch sut i gael y gorau o'r darn pren, gan weithio gyda'i siâp naturiol.

Mae popeth am y gadair hon yn awgrymu iddi gael ei chynhyrchu’n gyflym a chyda sicrwydd gan wneuthurwr profiadol. Mae'r fraich deuran wedi'i gwneud o un darn o onnen grom naturiol, sydd wedi'i rannu a'i ddal ynghyd gyda phegiau pren neu hoelion coed. Ymddengys nad yw'r gwneuthurwr wedi rhoi fawr o ystyriaeth i’w haddurniad a’i hymddangosiad, gan adael y rhisgl ar y fraich hyd yn oed. Mae'r dull a ddefnyddir wrth lunio’r fraich hon yn debyg i'r arfer hynafol a welir mewn toeon cwplws a geir mewn bythynnod a ffermdai cynhenid.

Mae'r sedd chwe ochrog yn debyg o ran siâp i'r hyn a welir gyda nifer o stolion teircoes a geir ar hyd a lled gorllewin Cymru gan nad oes ymgais i esmwythau’r ymylon na meddwl am gyfforddusrwydd y sawl sy’n eitedd arni. Gwelir bod y ffyn crib wedi'u tynhau gan ddefnyddio lletemau bach wrth iddynt fynd drwy’r breichiau. Mae'n ymddangos nad yw un o’r coesau yn cyffwrdd y llawr a hynny, mae'n debyg, am iddi fod y pwyso ar lawr anwastad ac yn ddiddorol iawn mae'n ymddangos bod y goes hon hefyd mewn safle ychydig yn wahanol. Er mai hon yw’r goes wreiddiol, mae’n bosib ei bod yn dangos bod yr hyn sy’n ei gwneud yn wahanol wedi ei achosi naill ai gan ei hamgylchedd blaenorol, neu y gallai fod wedi dod yn rhydd dros amser a'i rhoi'n ôl a'i thynhau ar ongl wahanol. Er gwaetha’r ffaith bod y gadair yn siglo pan rydych chi’n eistedd arni  - tybed a oedd darn o rhywbeth wrth law yn gyfleus i’w osod o dan y goes – ac na fu iddi gael ei gwerthfawrogi ddigon i rywun ei hatgyweirio, mae hyn yn ei gwneud yn eitem mwy diddorol fyth y nein barn ni. Mae’n anodd lleoli’r gadair hon o ran ei chysylltiad gyda sir neu ardal benodol, ond mae popeth amdani, gan gynnwys y ffaith inni ei phrynu mewn ocsiwn yn sir Gaerfyrddin, yn awgrymu mai yng ngorllewin Cymru y crewyd hi.


 

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw