Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Adnabyddir y ffotograffydd arloesol Charles Smith Allen (1831-97), fel y gorau o blith ffotograffwyr cynnar Dinbych-y-pysgod.
Fe'i ganed yn Rugeley, Swydd Stafford, ym 1831, ac mae ychydig o negatifau papur sydd wedi goroesi yn dangos ei fod wedi dechrau cofnodi Dinbych-y-pysgod mewn arian tua diwedd y 1840au.
Fe sefydlodd ei fusnes yn Ninbych-y-pysgod gan brynu hen Ystafelloedd y Cynulliad lle aeth ati i godi ei stiwdio, 'Excelsior Studios'. Roedd gan y stiwdio ystafell dywyll yn llawn cyfleusterau ynghyd â system gymhleth o gaeadau a bleindiau a oedd yn rheoli'r lefel o olau dydd a oedd yn y stiwdio. Yn aml, byddai'n tynnu'r ffotograffau ar leoliad, gan iddo adeiladu ystafell dywyll symudol a oedd yn cael ei thynnu gan geffyl. Hefyd roedd ganddo siop a stiwdio o'r enw 'The Mortimer Studio', yn Nhŷ Tredegar, y Stryd Fawr, a oedd yn ymdrin â deunydd ysgrifennu, ynghyd â stiwdio ar Stryd y Priordy, Aberteifi.
Tynnodd Allen ffotograffau ledled Cymru ac mae'r albwm hwn yn un o blith nifer a gynhyrchodd ar gyfer cwsmeriaid unigol - yn yr achos hwn ar gyfer teulu 'Belfield'.
Bu farw C. S. Allen yn Ninbych-y-pysgod ym 1897.
[Yn seiliedig ar ddisgrifiad a ddarparwyd gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod]

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw