Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Atgynhyrchiad cerdyn post hanesyddol, tua 1901.

Mae’r olygfa’n dangos yr agerlong DORA, gynt yn eiddo i’r Aberdovey and Barmouth Steamship Company. Wrth ddychwelyd i Lerpwl o Belfast ar 1 Mai 1917 fe gafodd ei stopio gan y llong danfor Almaenig yr UC 65 dan reolaeth Otto Steinbrink. Gorchmynnwyd i griw’r DORA adael y llong yn y badau achub. Yna aeth criw’r UC 65 ar fwrdd yr agerlong, gosod ffrwydron, a’i suddo.

Michael Williams a ddaeth â’r ddogfen hon i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei sganio.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw