Skip to main content

Peintiad o'r llong 'Kildonian' a hwyliodd o harbwr Aberaeron

Disgrifiadau

Adeiladwyd y 'Kidlonian' yn Glasgow ym 1869 ac roedd yn pwyso 650 tunnell. Perchennog y llong oedd W. B. Jones o Abertawe.

Daeth y llong â lwc dda i'r Capten John Jones o rif 5 Ffordd y Gogledd, pan fu'n gapten arni ym 1885. Yn ystod y flwyddyn honno, gerllaw yr Horn, un o'r mannau mwyaf stormus yn y byd, aeth i gynorthwyo criw'r 'Inchape Rock'. Roedd capten y llong honno, Capten Armour, a phedwar aelod o'r criw wedi cael eu hysgubo i'r môr dros fwrdd y llong. Aeth Jones a dau aelod o'i griw mewn cwch gan fentro'u bywydau yn y moroedd stormus er mwyn mynd ar fwrdd yr 'Inchape Rock'. Roeddynt yn cario offer morwrol hefyd gan fod offer yr 'Inchape Rock' wedi cael eu hysgubo i'r môr. Wrth ddychwelyd i'r 'Kildonian' bu bron i'w cwch gael ei ysgubo i'r dŵr, ond llwyddasant i gyrraedd y llong yn ddiogel. Derbyniodd Capten Jones wobr o £191 am ei ddewrder.

Ffynhonnell: 'Aberayron 1971 Exhibition of Paintings of Sailing Ships and Ships Equipment by Gwilym M. Jones' (Catalog Arddangosfa)

Owner:
Ceredigion Libraries
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgelloedd Ceredigion
Copyright Details:
Llyfrgell Ceredigion 2002
Publisher Ref:
GTJ08029
Eitem wedi’i llwytho:
26/1/2010
Date originally created:
1800-1899
Gwelediadau:
1161
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

Sylwadau (2)

You must be logged in to leave a comment