Cyntedd Teils Gwydrog Maiolica a gynhyrchwyd gan Gwmni J. C. Edwards, 1902 [delwedd 1 o 3]
Disgrifiadau
Cafodd yr enghraifft wych hon o gyntedd teils gwydrog ei achub, ei gadw a'i ailgreu mewn wyth darn gan Heritage Tile Conservation Cyf ym 1989. Daeth y cyntedd o hen swyddfa rheolwr gwaith brics J. C. Edwards yn Nhref-y-nant, Acrefair, ger Wrecsam. Achubwyd y cyntedd hwn cyn i'r adeilad gael ei ddymchwel. Mae'r adeiladwaith hwn yn cynrychioli cyfoeth ac ysblander y diwydiant terracotta ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Dilynodd James Coater Edwards (1828-96) yn ôl traed ei dad yn y diwydiant clai, gan ddatblygu ei fusnes - J. C. Edwards & Co. - ar dri safle, sef Gwaith Albert, Rhosllannerchrugog (gwaith brics), gwaith Pen-y-bont yn Newbridge (clai) a gwaith Tref-y-nant (teils addurniadol). Disgrifiwyd Edwards fel 'un o gynhyrchwyr terracotta mwyaf llwyddiannus y byd' gan ei fod yn allforio teils i bob rhan o'r byd. Gwerthwyd y cwmni ym 1956.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment