Disgrifiad

Yn 2018 fe wnaeth Merched y Wawr gynnal cystadleuaeth i "Ddathlu'r Aur" a gofynnwyd i aelodau greu llyfrau lloffion. Fe ddaeth 40 o lyfrau i mewn ac fe wnaeth tair beirniad sef Sian Lewis: Awdures, Meleri Wyn James; Gwasg Y Lolfa, Lona Mason; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ddewis y goreuon. Yn gyntaf roedd Cangen Bryncroes, Dwyfor, yn gydradd ail Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion a Golan, Dwyfor ac yn gydradd drydedd Ffynnongroes, Penfro, Hendygwyn ar Daf, Caerfyrddin a Llanfair Dyffryn Clwyd, Glyn Maelor. Diolch i bawb a wnaeth gymryd rhan yn casglu a chrynhoi yr hanes.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw