Skip to main content

Llythyr oddi wrth Humphrey Jones, prentis fferyllydd yn Llundain, at ei rieni yn Llangollen, 12 Medi 1854 [delwedd 1 o 3]

Disgrifiadau

Anfonodd Humphrey Jones y llythyr hwn, dyddiedig 12 Medi 1854, at ei rieni o Lundain. Mae'n ymddiheuro am beidio ag ysgrifennu yn gynt. Mae'r colera yn ddrwg iawn mewn rhai ardaloedd ond mae Hackney yn ddigon iach ar hyn o bryd, gyda hanner dwsin o achosion yn unig. Dywed Humphrey fod 'y lle wedi ei draeinio yn dda'. Gan fod y tywydd wedi bod mor braf mae Humphrey yn cymryd yn ganiataol fod ei rieni wedi gorffen gyda'r cynhaeaf bellach. Dywed ei fod yn bwriadu aros yn ei swydd bresennol am flwyddyn arall gan ei fod yn dysgu llawer. Mae'n mynychu'r capel bob bore Sul. Roedd wedi bwriadu mynd i'r Gymdeithas neithiwr ond bu'n rhaid iddo weithio'n hwyr yn y siop ac felly bydd yn rhaid iddo aros am y cyfarfod misol nesaf.

Owner:
Denbighshire Record Office
Crëwr:
Jones, Humphrey
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Ddinbych
Copyright Details:
Archifdy Sir Ddinbych 2002
Publisher Ref:
GTJ17513
Eitem wedi’i llwytho:
21/1/2010
Date originally created:
12/9/1854
Gwelediadau:
1203
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment