Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Anfonodd Humphrey Jones y llythyr hwn, dyddiedig 31 Awst 1854, at ei rieni o Lundain. Ymddiheura fod cymaint o amser wedi mynd heibio ers iddo ysgrifennu, ond dywed fod llawer o 'saldra o gwmpas'. Esbonia mai 'tân a cholera sydd yn creu fwyaf o stir yn Llundain yn bresenol'. Roedd tân gerllaw yr wythnos ddiwethaf, wrth ymyl capel y Bedyddwyr Saesneg, a llosgwyd stordai un o gwmnïau fferyllwyr mwyaf Llundain ddoe. Nid yw'r tywydd yn helpu'r sefyllfa chwaith gan fod y colera yn fwy tebygol o ymledu. Yn ôl Humphrey, mae pobl yn dychryn gormod ac yn tueddu i feddwl eu bod yn dioddef o colera. Mae eraill yn tybio ei fod yn hawdd dal y salwch ac yn dychryn pan maent yn clywed am achosion gerllaw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw