Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yma gwelir arwydd gorsaf reilffordd Capel Celyn cyn ei chau er mwyn adeiladu'r gronfa ddŵr newydd yn Nhryweryn.

Ym 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiwyd ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau gan drigolion ac awdurdodau lleol, unigolion a sefydliadau cenedlaethol, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw