arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterNoddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government

Tryweryn

Efallai mai'r symbol mwyaf o frwydr yr iaith Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif yw Tryweryn. Dechreuodd yr ymgyrch i achub Cwm Tryweryn a phentref Capel Celyn rhag cael eu boddi i gyflenwi dwr i ddinas Lerpwl ar 20 Rhagfyr 1955.

Eitemau yn y stori hwn

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Golygfeydd o Gapel Celyn a'r ardal, gan gynnwys...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Tu mewn i'r capel adfeiliedig yng Nghapel Celyn...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Arwydd ger y ffordd a oedd yn arwain at bentref...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Protest a gynhaliwyd yn Lerpwl yn erbyn y...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Gwynfor Evans, 'Save Cwm Tryweryn for Wales' ...

Dŵr i Lerpwl

Efallai mai'r symbol mwyaf o frwydr yr iaith Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif yw Tryweryn.  Dechreuodd yr ymgyrch i achub Cwm Tryweryn a phentref Capel Celyn rhag cael eu boddi i gyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl ar 20 Rhagfyr 1955 gyda'r datganiad o'r bwriad i adeiladu cronfa ddŵr yng nghalon Sir Feirionnydd.

Pasiwyd y mesur preifat gan y Llywodraeth Geidwadol a Chorfforaeth Lerpwl heb drafodaeth gydag awdurdodau yng Nghymru ac ni chafodd gefnogaeth gan yr un AS yng Nghymru.  Byddai'r gronfa ddŵr y fwyaf yng Nghymru, gan foddi cwm cyfan a phentref Capel Celyn.  Byddai 48 o drigolion y pentref  a ffermydd cyfagos yn cael eu symud a byddai cannoedd o erwau o dir amaethyddol ffrwythlon yn cael eu colli.

 

Y frwydr i achub Capel Celyn

Roedd gwrthwynebiad chwyrn i'r cynllun.  Enillodd trigolion Capel Celyn gefnogaeth oddi wrth enwogion, awdurdodau lleol a sefydliadau cenedlaethol a ffurfiwyd grwpiau i gydlynu gweithgareddau'r gwrthwynebwyr.  Enw un o'r grwpiau oedd 'Pwyllgor Amddiffyn Tryweryn', ac roedd yn cynnwys unigolion fel sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, Ifan ab Owen Edwards; Megan Lloyd George, merch y cyn-Brif Weinidog David Lloyd George; T. I. Ellis, mab chwip y Blaid Ryddfrydol; ac Arglwydd Ogwr.

Cefnogwyd yr ymgyrch hefyd gan Blaid Genedlaethol Cymru, a ddaeth i’w hadnabod tua'r adeg honno yn Blaid Cymru, ac roedd y llywydd, Gwynfor Evans, yn gwrthwynebu'n arbennig o chwyrn.  Iddyn nhw, fel i lawer o bobl eraill, gwelwyd y bygythiad i bentref Capel Celyn, ynghanol sir Gymraeg ei hiaith Meirionnydd, fel symbol o gyflwr Cymru gyfan.  Am ddegawdau, bu Plaid Cymru'n dadlau am yr angen am fwy o hunanlywodraeth, ac roedd diymadferthwch Aelodau Seneddol Cymru a'r awdurdodau yn wyneb Corfforaeth Lerpwl gyda chefnogaeth y llywodraeth yn gwneud i'w dadleuon ymddangos yn fwy perthnasol.

 

Colli'r frwydr

Er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig y cyhoedd yng Nghymru a heb unrhyw gefnogaeth oddi wrth ASau yng Nghymru, pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl ar 1 Awst 1959. Dechreuodd y prosiect £20 miliwn dair blynedd yn ddiweddarach ond parhaodd y gwrthwynebu. Er nad oedd gweithredu uniongyrchol yn cael ei gefnogi'n agored, teimlodd nifer o unigolion yr angen i weithredu yn erbyn y prosiect ac arestiwyd pobl am ddifrod troseddol ar y safle ac fe garcharwyd dau ddyn ym 1963.

 

Boddi cymuned

Cwblhawyd yr argae ym mis Awst 1965 a chynhaliwyd agoriad swyddogol y gronfa ddŵr ar 28 Hydref.  Suddodd y gronfa ddŵr y tai, y tir, yr ysgol a'r capel yng Nghapel Celyn.  Datgladdwyd rhai o'r beddi ym mynwent y capel a'u symud i bentref cyfagos Llan-y-cil, a gorchuddiwyd eraill â choncrit.  Ni ddymchwelwyd pob adeilad cyn boddi'r pentref a nawr, pan mae'r dŵr yn anarferol o isel, maent yn ymddangos o lawr y gronfa ddŵr fel atgof iasol o'r gymuned a gollwyd.

 

Cofiwch Dryweryn

Yn 2005, ar 50fed pen blwydd y datganiad y byddai Cwm Tryweryn yn cael ei foddi, cynigiodd Cyngor Dinas Lerpwl ymddiheuriad ffurfiol ar ran ei rhagflaenydd am 'ddideimladrwydd' y cynllun a gafodd y fath effaith dinistriol ar gymuned Capel Celyn.  Roedd yr effaith personol ar drigolion Capel Celyn yn anferth; bu rhaid i lawer ohonynt adael cartrefi a fu yn eiddo i'w teuluoedd ers cenedlaethau.  Mae eu colled, a phopeth y mae'n ei gynrychioli, wedi dod yn eiconig yng ngwleidyddiaeth Cymru a'r ymdrech dros yr iaith Gymraeg.  Mae ‘Cofiwch Dryweryn’ yn parhau'n un o sloganau mwyaf grymus yn yr iaith Gymraeg ac yn alwad i uno cenedlaetholwyr yng Nghymru.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw