Marciau tân cwmni yswiriant Sun Insurance, 1839-50
Disgrifiadau
Nid oedd system ymladd tân trefnedig ym Mhrydain tan ar ôl Tân Mawr Llundain ym 1666 pan ddaeth yn amlwg y byddai'n rhaid cael rhyw fath o ymateb trefnedig i atal y fath drychineb rhag digwydd eto. Datblygodd Dr Barbon, a oedd ynghlwm wrth ailadeiladu'r ddinas, y syniad o 'yswiriant' tân, lle byddai llawer o bobl yn gallu cyfrannu at gost sefydlu brigâd dân.
Sefydlwyd brigadau tân mewn llawer o drefi a dinasoedd, ond byddent yn ymladd tanau mewn adeiladau oedd yn perthyn i'r bobl a oedd wedi talu arian i'w cwmni. Rhoddwyd placiau i'w rhoi ar y wal y tu allan i'w hadeiladau i'r bobl oedd wedi talu am bolisi felly os oedd tân, gallai'r frigâd gywir gael ei galw.
Un o'r cwmnïau mwyaf adnabyddus oedd Sun Fire Office, a sefydlwyd ym 1710 ac a oedd yn rhoi placiau fel hyn i'w gwsmeriaid. Roedd y pencadlys yn Llundain, ac agorodd y cwmni nifer o swyddfeydd ledled Prydain, gydag asiantau lleol. Yn ystod y 18fed ganrif, roedd gan Sun Fire Office fonopoli ar yswirio adeiladau diwydiannol ym Mhrydain ac, yn ystod y 19eg ganrif, dechreuodd y cwmni weithio ledled y byd. Roedd y cwmni'n arloeswr ym maes yswiriant, ac, ar droad yr 21ain ganrif, roedd y cwmni hynaf oedd yn parhau i fasnachu o dan ei enw gwreiddiol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment