Llythyr oddi wrth y Parch. D. Lloyd Jones at y Parch. Michael D. Jones, 29 Medi 1871 [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Ysgrifennwyd y llythyr hwn fis cyn y cyhoeddwyd Michael D. Jones yn fethdalwr oherwydd y dyledion a aeth iddynt trwy ei gysylltiad â Chwmni Ymfudol a Masnachol y Wladfa Gymreig.
Mae David Lloyd Jones yn ysgrifennu at Michael D. Jones i'w hysbysu ynglŷn â'r datblygiadau diweddaraf. Mae'n amcangyfrif mai cyfanswm dyled y Wladfa i Michael D. Jones, gan gynnwys llog, yw £3222. Mae Lloyd Jones hefyd wedi derbyn llythyr oddi wrth Mr Denby yn gofyn i'r Wladfa am £712.8.0 ynghyd â llog o 10 y cant. Mae dyled y Wladfa, gan gynnwys llog, bron yn £9000. Roedd llythyr Denby hefyd yn ei hysbysu fod Adran Ymfudol llywodraeth Ariannin yn bwriadu darparu ar gyfer 710 o deuluoedd sy'n mewnfudo. Bydd 7 lîg sgwar yn cael ei gynnig i bob 200 o deuluoedd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment