Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Aeth y cwch pysgota Roche Castle ar y creigiau yn Paviland, Penrhyn Gŵyr yn ystod storm tra oedd yn ceisio dychwelyd i Abertawe ar y 10fed Ionawr, 1937. Cafodd y bad achub (Cwmni C.A.B. [Cyfarpar Achub Bywyd] Rhosili) drafferth mawr cyrraedd y cwch difrodedig.

Rhoddodd y bad achub lansiwr rocedi mewn gweithred, a saethodd roced a gludai raff i'r llong oedd mewn trafferth. Roedd sedd elfennol wedi ei chysylltu iddo oedd yn gallu cludo aelodau'r criw i ddiogelwch. Fodd bynnag, roedd cadw rhaff yn dynn mewn moroedd stormus a gwyntoedd uchel, a chyda'r llong yn siglo yn erbyn y creigiau, yn eithriadol o anodd. Gan frwydro yn erbyn y tywydd mawr, llwyddodd CAB Rhosili i gael y rhan fwyaf o'r criw i'r lan, ond collwyd un dyn pan syrthiodd oddi wrth y rhaff, gan gael ei wasgu yn erbyn y creigiau gan gorff y llong.

Arbedwyd cloc y llong ac fe'i cadwyd gan y peiriannwr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw