Skip to main content

Neuadd y Dref, Heol y Santes Fair, gan Calvert Jones, 1840au

Disgrifiadau

Roedd y Parch. Calvert Richard Jones (1804-77) yn gyfaill i John Dillwyn Llewelyn, perchennog ystad Penlle'r-gaer ar gyrion Abertawea ac a oedd yn awdurdod eiddgar ar ffotograffiaeth gynnar. Roedd Dillwyn Llewelyn ei hun yn gefnder i Fox Talbot, a gwnaeth ddefnydd o'i wybodaeth o gemeg i ddatblygu'r prosesau yr oedd Fox Talbot wedi bod yn gweithio arnynt.

Dilynodd Calvert Jones gynnydd Dillwyn Llewelyn a Fox Talbot gyda diddordeb. Peintiwr arforol oedd o'n wreiddiol, ond dechreuodd dynnu ffotograffau gyda brwdfrydedd, gan wneud daguerroteipiau i ddechrau, cyn mynd ymlaen i ddefnyddio proses caloteipiau Fox Talbot. Teithiodd ledled Ffrainc a'r Eidal, gan ddatblygu ei ffyrdd ei hun o dynnu lluniau panoramig, a gweithiodd ochr yn ochr â Hippolyte Bayard, a wnaeth ddarganfyddiadau mewn ffotograffiaeth cyn Louis Daguerre.

Owner:
Swansea Museum
Crëwr:
Calvert Jones?
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Abertawe
Copyright Details:
Amgueddfa Abertawe 2002
Publisher Ref:
GTJ70468
Eitem wedi’i llwytho:
20/1/2010
Date originally created:
1840-1849
Gwelediadau:
811
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment