'Henry Thomas Hare (1861-1921), pensaer' gan William Llewellyn
Disgrifiadau
Portread o'r pensaer Henry Thomas Hare (1861-1921) gan William Llewellyn. Henry Hare oedd yn gyfrifol am gynllunio adeiladau newydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ym Mhenrallt. Defnyddiwyd tywodfaen o Gefn, ger Rhiwabon, a llechi o'r Preselau, Sir Benfro, i godi'r adeiladau newydd. Agorwyd yr adeiladau newydd yn swyddogol ar 14 Gorffennaf 1911 gan Dywysog Cymru, y diwrnod ar ôl iddo gael ei arwisgo yng Nghastell Caernarfon.
Roedd Hare yn frodor o Scarborough ac roedd wedi astudio yn Paris cyn sefydlu ei fusnes yn Llundain. Bu'n llywydd ar y Gymdeithas Bensaernïol ym 1902 ac yn llywydd ar Sefydliad Brenhinol y Penseiri rhwng 1917 ac 1919.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment