Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Ar ôl i'r gweithwyr ofyn am gyngor Evan Evans, penderfynasant anfon y llythyr hwn at Mr Legg. Esbonia'r mwynwyr fod ganddynt gytundeb arbennig ar gyfer gosod bargeinion, ac un o amodau'r cytundeb hwnnw yw na ddylid cynnig unrhyw fargeinion a gafodd eu gwrthod i unrhyw weithwyr eraill, hyd nes y bydd y sawl oedd yn gweithio'r fargen yn wreiddiol wedi cael cyfle i ailystyried y mater. Fodd bynnag, roedd yr amod hwn wedi cael ei dorri'n ddiweddar gan fod 'gweithwyr estron' wedi cymryd bargeinion cyn i'r gweithwyr gwreiddiol gael gyfle i ailystyried y mater.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw