Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dywed Evans ei fod wedi gweld y llythyr a dderbyniodd y mwynwyr gan Legg ac ychwanega eu bod yn ymddangos yn ddigon hapus gyda chywair y llythyr. Roedd wedi dweud wrth y dynion nad oedd am wneud unrhyw sylw ar y mater. Fodd bynnag, dywed wrth Legg ei fod yn fodlon cynnal ymchwiliadau pellach ar ei ran a llunio adroddiad diduedd. Ymhellach, dywed ei fod yn amlwg nad oedd y mwynwyr wedi rhestru eu holl gŵynion yn eu llythyr; yn ôl Evans, mae'n debyg nad oedd y sawl a ysgrifennodd y llythyr ar eu rhan yn awyddus i gynnwys yr holl gŵynion hyn 'partly from a fear of implicating himself and partly from ignorance of the mining technicalities their statement involved'.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw