Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Canghennau Ystalyfera a Phontardawe o Ferched y Wawr yn cyflwyno ‘Migldi Magldi’ yng nghyflwyniad Rhanbarth Gorllewin Morgannwg o ‘Pwt o Lawenydd’ yn Neuadd Les Ystradgynlais, 4ydd Ebrill, 1981. Yr arweinydd oedd y Parch. Elfed Lewis. Yn y llun mae: Rhiannon Daniel, Rhydwen James, Brenda Evans, Dilwen Williams, (Pontardawe) a Nel Williams, Dorrie Davies, Jennie Williams, Marjorie James a Jean Rees (Ystalyfera) (nid mewn trefn). Caeodd cangen Ystalyfera yn ystod haf 2014. Ymunodd rhai aelodau â changen Pontardawe.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw