Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yn ystod Gwanwyn 2015 bu llawer o aelodau o gangen Merched y Wawr Felinfach yn brysur yn casglu amrwyiaeth o waith T Llew Jones ac fe ddaeth Dwynwen Llywelyn ati i ddewis a dethol y gwaith er mwyn ysgrifennu cyflwyniad. Aethant ati i ymarfer y cyflwyniad dan gyfarwyddid Dwynwen a Catherine Young. Perfformiwyd y cyfwlyniad yng nghystadleuaeth ‘Cyflwyniad ar waith T Llew Jones’ yng Ngŵyl Haf 2015, gan ddod yn ail.
Bu’r unarddeg aelod yn perfformio’r cyflwyniad eto tu allan y Theatr Felinfach yn Ngŵyl arbennig i T Llew ac yna ym Medi 2015 bu’r grŵp yn cymryd rhan ym Mhenwythnos Preswyl Merched y Wawr yn Llanbed, ‘Croesi Pontydd’.
Llun 1 – Alwena Williams, Irene Thomas, Margaret Morgan
Llun 2 – Megan Richards, Alwena Williams, Irene Thomas, Christine Charlton, Delyth Davies, Glenys Jenkins, Enid Evans
Llun 3 – Alwena Williams, Beti Morris, Margaret Evans, Margaret Morgan, Delyth Davies, Christine Charlton, Megan Richards, Glenys Jenkins

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw