Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Blwch pren i ddal tlysau o waith y Parchedig T. Alwyn Williams, tad Annette Hughes, aelod a chyn-ysgrifennydd Cangen Clydach. Roedd y bocs yn rhodd o Rhanbarth Gorllewin Morgannwg i Wendy Richards (Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr 1976-1978) ar ei llywyddiaeth.
Llythyr o ddiolch oddiwrth Wendy Richards (Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr 1976-1978) i’r Parchedig T. Alwyn Williams am ei waith yn gwneud blwch pren i ddal tlysau ar ran Rhanbarth Gorllewin Morgannwg fel rhodd i Wendy ar ei llywyddiaeth. Roedd y Parchedig yn dad i Annette Hughes, aelod o Gangen Clydach ac yn un o aelodau mwyaf gweithgar Gorllewin Morgannwg.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw