Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at ei mab, Thomas Benbow Phillips. gan Mrs Susannah Phillips yn Mhelotas, dyddiedig 30 Gorffennaf 1874

Dywed Mrs Susannah Phillips ei bod yn teimlo y dylai ysgrifennu ato ar ôl ei salwch hir i ddweud wrtho ei bod yn well, a bod Duw wedi ei harbed am ychydig amser eto. Dywedodd y byddai'n dweud wrtho petai ganddi eisiau unrhyw beth, ond ei bod wedi derbyn pob sylw posibl. Anfonodd Dr Casela ei gyfarchion, ac roedd hi'n meddwl y byddai hi'n ymweld â Thomas Benbow Phillips am ychydig ddyddiau ar ddiwedd y mis er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer pen blwydd Tommy. Roedd wedi disgwyl derbyn llythyr ganddo, ond ni chafodd un. Pe na bai Mrs Phillips yn gallu dal y siwrnai, roedd hi'n meddwl tybed a fyddai Tommy'n ystyried ymweld â hi. Buasai'n hoffi gweld y teulu uwaith eto. Roedd Mr a Mrs Krafts wedi bod yn dda iawn yn edrych ar ei hôl dros gyfnod ei salwch, a bu cyfeillion eraill hefyd yn tendio arni. Diolchodd i Thomas Benbow Phillips am anfon y bisgedi ati, oherwydd na allai hi fwyta bara.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw