Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan Thomas B Pickering, ei “nai serchog” yn Richmond, Virginia, UDA, dyddiedig 29 Hydref, 1875.

Cyflwynodd Tom Pickering ei hun fel ail fab John Pickering, ac eglurodd ei fod ef a'i frawd James wedi setlo yn Efrog Newydd i redeg eu busnesau, oedd yn anffodus wedi methu. Roedd James wedi troi i fod yn arlunydd portreadau, ac aeth Tom i weithio fel clerc i gwmni Dun, Burlow & Cyf, cwmni mawr yn Efrog Newydd. Bu farw dau o feibion ifanc James o'r difftheria yng ngwanwyn 1874, dioddefodd ei wraig o iselder ac anfonodd hi i Ewrop. Dilynodd hi Ebrill diwethaf, ac roedd erbyn hyn wedi setlo ym Manceinion. Roedd Tom wedi gadael y cwmni a chychwyn yn y busnes Groser yn Slaten Island yn ymyl Efrog Newydd. Aeth yr hwch drwy'r siop, ond cyfarfu gyda Chapteiniaid llongau oedd yn masnachu i Frasil, oedd wedi argymell ei fod yn mynd yno. Gadawodd ar y sgwner “Pelager” am Richmond i gario blawd i Rio Grande. Capten y llong oedd James Bedell, roeddynt yn rhannu'r un stafell. Roedd yn disgwyl y byddai'r llong yn cyrraedd Rio Grande tua'r Nadolig ac y byddai'n cyfarfod gyda Thomas Benbow Phillips, ei fodryb, cefndryd a chyfnitherod a'i nain ac y byddent i gyda mewn iechyd da. Darfu'r llythyr trwy ddweud ei fod yn edrych ymlaen at gyfarfod y teulu i gyd eto, ac y byddai Thomas Benbow Phillips yn clywed gan y teulu Pickering ym Manceinion cyn i'r llythyr hwn ei gyrraedd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw