Skip to main content

Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan John Pickering, 17 Tachwedd, 1875

Disgrifiadau

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan John Pickering yn 279, Stretford Road Manceinion, dyddiedig 17 Tachwedd 1875

Dywedodd John Pickering nad oedd wedi clywed gan Thomas Benbow Phillips ers amser maith, ac nad oedd wedi derbyn ateb i'w lythyrau. Roedd John Pickering wedi derbyn llythyr yn ddiweddar gan ei fab Tom oedd wedi treulio blynyddoedd yn Unol Daleithiau'r America, ac oedd wedi gadael Efrog Newydd i deithio i Brazil. Ysgrifennodd John Pickering at Mr Christopher James i ofyn a allai chwilio gwaith iddo, a derbyn ateb i ddweud na allai Tom Pickering fod wedi cyrraedd Brasil ar amser gwaeth. Roedd Capten y llong y teithiodd Tom Pickering arni yn nabod Thomas Benbow P hillips ac wedi dweud ei fod yn gwneud yn dda iddo'i hun. Roedd John Pickering yn gobeithio fod ei deulu a'i fam hefyd yn holliach. Eglurodd fod Annie, ei ferch hynaf, yn glyfar iawn, a bod ei mam a hithau yn cynhyrchu crysau cwiltiog. Roedd ganddynt un-ar-ddeg o beiriannau gwnȉo ac wyth o weithwyr, ac roedd yntau yn helpu rhyw fymryn yn y busnes. Anfonodd gyfarchion ei deulu i Thomas Benbow Phillips a'i deulu yntau a dymuno'n dda iddo.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
17/11/1875
Gwelediadau:
1083
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment