Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Mrs Suzannah Phillips, 5 Mai, 1875
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd ar ei mab, Thomas Benbow Phillips gan Mrs Susannah Phillips ym Mhelotas (wedi ei arddweud i'w chydymaith ifanc ei ysgrifennu ar ei rhan), dyddiedig 5 Mai 1875.
Diolchodd Mrs Susannah Phillips o waelod calon i'w mab (Thomas Benbow Phillips) am ei lythyr diweddaraf; roedd hi wedi bod wrth ei bodd yn ei ddarllen. Treuliodd ei phen blwydd yn ddiweddar gyda Peter Kraft a chafodd nifer o roddion bychain. Roedd y Misses annwyl wedi rhoi 'chemise' hardd iddi, a chafodd bedwar anrheg gan Mr Kraft. Roedd un o'r bechgyn wedi rhoi hances boced iddi a'r llall wedi rhoi darn o sebon persawrus. Cafodd sofren gan Mr Daniel, par o sane silc gan Misses Fulcher, a rhoddodd Misses Mozeley siaced wlannen iddi. Byddai Dr Gama Lobos, mab yng nghyfraith y meistr yn dod i'w gweld os nad oedd yn teimlo'n dda. Derbyniodd Mrs Phillips lythyr a llyfrau gan Mr McCloud, ac anfonodd lythyr diolch atynt a llun ohoni ei hun. Gofynnodd i Thomas Benbow Phillips ddweud wrthynt nad oedd ganddi eisiau iddynt ddychwelyd y llyfr o bregethau. Gan fod Mrs Phillips wedi anfon llun ohoni hi ei hun i Thomas Benbow Phillips, gofynnodd iddo anfon llun ohono'i hun ynghyd ag un o Olivia fach a Susannah iddi hi, a'i atgoffa i gribo'i wallt yn daclus! Roedd Misses Sanjuan a'i merch Elvira yn meddwl fod Thomas Benbow Phillips yn ddyn golygus! Anfonodd ei chariad at ei wraig a'i blant.
Mewn Ôl Nodiad byr yn ei llawysgrifen ei hun eglurodd mai ei “chydymaith ifanc” oedd wedi ysgrifennu'r llythyr ar ei rhan er mwy iddo weld pa mor dda roedd hi'n dod yn ei blaen. Dywedodd wrtho, er gwybodaeth, fod ganddi 50,000 gyda Mr Kraft.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment