Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Mrs Suzannah Phillips, 21 Rhagfyr, 1875
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan ei fam, Mrs Suzannah Phillips ym Mhelotas, dyddiedig 21 Rhagfyr 1875
Dywedodd Mrs Phillips wrth ei mab y byddai wrth ei bodd yn ei weld, ond roedd yn rhy wan i deithio. Roedd wedi dioddef o'r dolur rhydd am y trydydd tro, ac wedi methu pasio dŵr. Bu Dr Gama a Dr Campello i'w golwg a gorchymyn iddi gael bath poeth am dair noson, ond ni weithiodd hynny. Duw â'i gwnaeth yn well. Roedd yn colli ei diweddar ŵr yn fawr iawn, ac aeth yn ei blaen i ddweud mai ei angladd oedd yr un mwyaf yn hanes Pelotas. Aeth saith deg a dau o gerbydau o'r tŷ i'r eglwys, a dros gant o'r eglwys i'r fynwent. Dywedodd Mr Moseley wrthi fod Thomas Benbow Phillips wedi bod yn sâl, ac roedd yn gobeithio ei fod yn well. Roedd Mr Moseley wedi colli plentyn a fu'n wael am gyfnod hir, ac roedd y moddion yn ddrud iawn. Roedd Mrs Moseley yn disgwyl plentyn arall ymhen y mis. Aeth Mrs Phillips i ginio gyda Mrs Massa y diwrnod blaenorol, ac roedd y teulu yn holi am Thomas Benbow Phillips. Roedd dyn canol oed oedd newydd ddychwelyd o Rio Grande yno, ac adroddodd fod Thomas Benbow Phillips yn dda iawn. Byddai Susannah yn un-ar-ddeg oed y dydd Sadwrn canlynol. Anfonodd Mrs Phillips ei dymuniadau gorau.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment