Llythyr i'w nain gan Thomas B Pickering, 27 Chwefror, 1875
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at ei nain gan Thomas B Pickering yn Rio Grande do Sul, dydiedig 7 Chwefror 1875
Ymddiheurodd Thomas B Pickering fod amser maith wedi mynd heibio ers iddo ysgrifennu ati, ond nid oedd ganddo unrhyw beth pwysig i'w adrodd. Nid oedd wedi derbyn unrhyw ohebiaeth o Loegr y gallai ei anfon ymlaen ati. Nid oedd wedi dechrau ar unrhyw waith,a theimlai ei fod yn “rhydu” gyda llawer o afiechyd. Galwodd Mr a Mrs Craft y dydd Mercher blaenorol ac roedd Thomas yn falch o glywed ganddynt fod ei nain yn iach. Anfonodd ei gofion atynt ac at Mr a Mrs Fulcher. Roedd ei ewythr, ei fodryb a'r plant i gyd yn iach, ac yn anfon eu cofion. Byddai'n ysgrifennu i Loegr yn fuan, a gofynnodd i'w nain anfon ychydig linellau ato i'w hamgáu yn y llythyr hwnnw, oherwydd byddai'r ychydig linellau hynny yn cael eu gwerthfawrogi gan bawb adref. Holodd os oedd y cloc yn dal i gadw amser a gobeithiai nad oedd y mosgitos yn amharu ar ei chwsg. Addawodd Thomas Pickering na fyddai'n cau'r llythyr cyn iddi anfon ychydig linellau ato ar gyfer ei phlant yn Lloegr, a gobeithiai y byddai ganddo newyddion da i'w rhannu yn ei lythyr nesaf.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment