Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Randal Callander, 2 Tachwedd, 1875
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande do Sul gan Randal Callander o Rio Grande do Sul, dyddiedig 2 Tachwedd 1875
Eglurodd Randal Callander iddo dderbyn llythyr gan Mr Victor A W Drummond, Chargé d'Affaires Ei Mawrhydi yn Rio de Janeiro, fel ateb i'w lythyr a anfonodd ymlaen ato yn nodi cyhuddiadau Thomas Benbow Phillips yn erbyn Llywodraeth Brasil, ac yn cynnwys dyfyniad i sylw Thomas Benbow Phillips: “mynegodd Victor Drummond ei ofid nad oedd Conswlau Ei Mawrhydi wedi argymell i Thomas Benbow Phillips drefnu gwasanaeth Cyfreithiwr a thrin yr achos mewn ffurf cyfreithiol pan fu iddo ddwyn yr achos i'w sylw ar fwy nag un achlysur. Petai'r awdurdodau wedi gwrthod cydio yn Wenceslau Mantins da Silva, byddai ganddynt yr hawl i ddefnyddio eu hawdurdod gyda Llywydd y Dalaith Gyfiawnder i wneud hynny. Dywedodd Victor Drummond hefyd na fyddai unrhyw Reithgor o Frasil byth yn dyfarnu o blaid Thomas Benbow Phillips, oherwydd nid oedd yn ymddangos fod ganddo unrhyw dystion na phrawf mai Wenceslau oedd y dyn â'i ttrywanodd ar 19 Rhagfyr, 1874. Pasiodd un mlynedd ar ddeg heibio ers pan gyflawnwyd y drosedd, ac ni chyflwynwyd unrhyw sylw i lysgenhadaeth Ei Mawrhydi ynghylch diffyg cyfiawnder ers llythyr Mr Perry ar 11 Mehefiin, 1866. Nid oedd Victor Drummond yn credu y byddai Thomas Benbow Phillips yn derbyn unrhyw iawndal. Bwriadai aros am farn Randal Callander cyn mynd â'r mater yn swyddogol at Lywodraeth Brasil, a byddai'n anfon yr achos at Iarll Derby”. Dywedodd Randall Callander, ar ddiwedd ei lythyr i Thomas Benbow P hillips ei fod yn gobeithio y byddai Thomas Benbow Phillips yn derbyn sylw haeddiannol gan y Llywodraeth Ymerodrol am orfod dioddef oherwydd diffyg cyfiawnder, ac mae'n darfod y llythyr i Thomas Benbow Phillips gyda'r geriau “eich gwas ufudd”.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment