Skip to main content

Llythyr i Mrs Suzannah Phillips gan Thomas Benbow Phillips, 30 Tachwedd, 1874

Disgrifiadau

Llythyr ysgrifennwyd at ei fam, Mrs Phillips, yng ngofal Snr Celestino San Juan ym Mhelotas gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 30 Tachwedd 1874

Diolchodd Thomas Benbow Phillips i'w fam am ei llythyr, ymddiheurodd am beidio ag ateb ynghynt, ac eglurodd ei fod wedi bod yn brysur yn gwneud gwelliannau i'r siop. Credai fod busnes wedi gwella ar ôl iddo wneud ei newidiadau. Roedd Llewelyn ac Arthur yn y ffabriga. Roedd Llewelyn yn cael ei dalu am y gwaith a gyflawnai ac yn ennill tua naw milreis yr wythnos. Aethai Tommy i'r ffatri, ac nid oedd Thomas Benbow Phillips yn siŵr os oedd yn hapus yno ai peidio oherwydd roedd dipyn o wahaniaeth llafurio yno o'i gymharu â gweithio yn y siop. Roedd Thomas Benbow Phillips yn gorfod bod yn y siop o fore gwyn tan nos, a bwyta yno, gan nad oedd yn gallu ymddiried yn yr hogyn a weithiai yno. Roedd Januaria a'r plant yn iach ac yn anfon eu cofion. Nid oedd iechyd Mr McCloud wedi bod yn dda, ond anfonai ef a'i wraig eu cofion cynhesaf. Nid oedd ganddo unrhyw newyddion arall, roedd yn holi'n gyson amdani ac yn falch o ddeall na chafodd ei chodwm effaith hir-dymor. Roedd Mrs McCloud yn debygol o ysgrifennu ati'r wythnos ganlynol.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
30/11/1874
Gwelediadau:
666
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment