Llythyr i Mrs Suzannah Phillips gan Thomas Benbow Phillips, 6 Mehefin, 1874
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at ei fam, Mrs Phillips, gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 6 Mehefin 1874
Eglurodd Thomas Benbow Phillips wrth ei fam fod yn ddrwg ganddo ddeall ei bod wedi bod yn wael. Roedd Mr Moseley wedi eu hysbysu am ei salwch. Roedd y teulu yn meddwl tybed a fyddai hi'n hoffi ymweld â nhw yn Rio Grande, a byddai ef a Januaria yn falch o'r cyfle i'w chroesawu. Gofynnodd iddi ysgrifennu i'w hysbysu o'i bwriad. Roedd y teulu i gyd yn iach, a'r plant lleiaf yn dod dros eu hannwyd trwm. Anfonodd ei gofion at Mr a Mrs Krafts, Margaret a'i brodyr i gyd. Mewn Ôl Nodyn, dywed iddo ysgrifennu'n glir mewn llawysgrifen fawr, er mwyn iddi fedru darllen y llythyr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment