arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at ei fam, Mrs Phillips. gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 26 Awst 1874

Diolchodd Thomas Benbow Phillips i'w fam am ei llythyr a dderbyniodd y dydd Llun blaenorol, yn ei hysbysu am ei hymweliad buan. Cadarnhaodd y byddai ef neu Tommy yn ei chyfarfod wrth y stemar. Anfonodd ei gofion at Peter a Rachael, a dywedodd ei fod wedi bwriadu ysgrifennu at Margaret, ond roedd amser wedi bod yn rhy fyr i wneud hynny. Bu Rees yn Rio Grande yn ddiweddar, ond nid oedd yn galw'n aml ac ni wyddai Thomas Benbow Phillips pryd y byddai'n ymadael.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw