Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd i'w fam, Mrs Phillips yn Capão de Tigre, gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 17 Mawrth 1874

Hysbysodd Thomas Benbow Phillips ei fam iddo dderbyn llythyr gan Mrs Thompson a bod llythyr iddi wedi ei amgáu. Dywedodd fod Mrs Thompson wedi dweud iddi anfon parsel bach o bregethau iddo, ond nid oeddynt wedi cyrraedd eto. Adroddodd ei bod hi'n hapus iawn, yn mwynhau ei hun yn Lloegr, ac nad oedd yn credu y byddai hi'n ymweld â Rio Grande eto. Bwriadai Tom Hallawell deithio i Loegr y diwrnod canlynol. Adroddodd Thomas Benbow Phillips fod ei deulu i gyd yn dda iawn, a'i fod yn derbyn newyddion cyson am iechyd ei fam. Roedd ei blentyn ieuengaf wedi cael ei bedyddio y mis diwethaf gan Mr Otero, a'i henw oedd Brenhilda. Dywedodd wrthi fod Llewelyn yn y siop, ac mai Tommy oedd ei gigydd, gan ei fod yn edrych ar ôl siop y cigydd. Roedd Arthur, Susanah a Winifred yn mynychu ysgol ddawnsio unwaith yr wythnos – i ddysgu dawnsio! Dywedodd Thomas Benbow Phillips wrth ei fam ei fod wedi cyfleu ei newyddion i gyd iddi.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw